Neidio i'r prif gynnwy

Sue Morgan

Rôl y Cyfarwyddwr Cenedlaethol ac Arweinydd Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yng Nghymru yw pontio’r perthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r GIG. Ffocws y rôl yw i wthio’r gweithrediad o’r Model Gofal Sylfaenol ar gyfer Cymru drwy’r datblygiad a gweithrediad o’r Rhaglen Strategol ar Gyfer Gofal Sylfaenol.

Mae 25 blwyddyn o brofiad rheoli o fewn y GIG â Sue, gan gynnwys rheolaeth weithredol, cynllunio gwasanaethau, comisiynu, a rheoli rhaglenni mewn nifer o sefydliadau’r GIG yng Nghymru. Cyn symud mewn i’r rôl presennol, roedd Sue’n Gyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer Gwasanaeth Gofal Sylfaenol a Gofal yn y Gymuned i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn delio gyda’r sialens o cynaliadwyedd GMS, a trawsnewid gofal system gyfan bu’n cael ei gynnal mor agos i’r cartref a phosib. Cyn hynny, roedd Sue’n arwain gwasanaethau menywod a phlant ac, yn ychwanegol i rheolaeth cyffredinol o’r gwasanaeth yno, bu’n cynllunio a comisiynu yr ‘Ysbyty i Blant Cymru’ yn Gaerdydd. Roedd y ddwy rôl yn cynnwys gweithio ledled sefydliadau ar lefel rhanbarthol a cenedlaethol, gydag amryw o bartneriaid megis cyrff proffesiynol, awdurdodau lleol, y sector annibynnol, a’r trydydd sector. Roedd gyrfa gynnar Sue yn bennaf yn ymwneud â rheolaeth weithredol mewn gofal eilaidd a chynllunio gwasanaethau y GIG.