Neidio i'r prif gynnwy

Raylene Roper

Mae Raylene Roper yn Uwch Reolwr Rhaglen sy’n gweithio yn y Swyddfa Reoli Rhaglen ar y Rhaglen Strategol ar gyfer gofal sylfaenol.  

Cyn hynny, bu Raylene yn Uwch Reolwr Prosiectau Rhaglen Genedlaethol Diwygio Contractau Deintyddol dan adain Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae hi wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, contractwyr deintyddol a chydweithwyr system ehangach dros y deng mlynedd diwethaf i ddatblygu ac aeddfedu'r dull o reoli prosiectau/rhaglenni ledled Cymru ar gyfer y prototeipiau deintyddol a'r rhaglen diwygio deintyddol. Mae ganddi gymwysterau PRINCE2 ac MSP.