Neidio i'r prif gynnwy

Karen Gully

Cymhwysodd Karen o Brifysgol Bryste ac roedd yn bartner meddyg teulu mewn practis yn Henffordd.

Daeth yn aelod o Gyfadran Iechyd y Cyhoedd cyn ymuno â Bwrdd Iechyd Addysgu Caerffili fel y Cyfarwyddwr Meddygol. Yn 2008 ymunodd Karen â Llywodraeth Cymru yn Uwch Swyddog Meddygol gan roi cyngor proffesiynol ar Ymarfer Cyffredinol a Gofal Sylfaenol.

Roedd hyn yn cynnwys datblygu'r polisi i sefydlu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol cydweithredol drwy rwydweithiau Clwstwr.

Roedd hi’n Gyfarwyddwr Meddygol ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys cyn ymuno â BIPAB i arwain y gwaith o ddatblygu ymhellach Rwydweithiau Gofal Cymdogaeth ac wedyn i gydlynu'r ymateb gofal sylfaenol a chymunedol i Bandemig COVID 19.

Mae Karen wedi ymuno â'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn Ymgynghorydd Proffesiynol Cenedlaethol ac mae'n parhau i roi cyngor proffesiynol i'r Rhaglen Adfer ôl-COVID yn BIPAB.