Neidio i'r prif gynnwy

Alastair Roeves

Alastair Roeves yw’r Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Gwasanaeth yn y Gymuned, yn gweithio o fewn y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol i Gymru. Yn ei rôl, mae’n ffocysu ar sut gall gwasanaethau Gofal Sylfaenol eu darparu’n wahanol i gynhyrchu canlyniadau, a profiadau, gwell i gleifion a gweithwyr proffesiynol. Mae’n cefnogi’r Cyfarwyddwyr Meddygol (AMDiau) yn Gofal Sylfaenol, ar hyd yr holl byrddau iechyd, i fod yn leisiau effeithiol o rheolaeth meddygol gofal iechyd, i ddylanwadu ar polisi a’u gweithrediad ledled Cymru. Yn ystod y pandemig COVID, mi gefnogodd y datblygiad cenedlaethol o’r llwybr COVID cymunedol, menter wardiau rhithwir, brechu a gwasanaethau gwell.

Pan yn gweithio i’r Prif Swyddog Meddygol, roedd yn arweinydd datblygiadol ar Fframwaith Clinigol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru (Mawrth 2021).

Cymhwysodd fel Meddyg Teulu yn 1995, a ddaeth yn bartner yn Tower Hamlets, ac yno Casnewydd, Gwent. Mae e wedi bod yn Ddarlithydd Anrhydeddus yn Prifysgol Caerdydd, a wedi gweithio mewn nifer o rolau rheolaeth meddygol, gan gynnwys arweinydd clwstwr yn Gorllewin Casnewydd, Cyfarwyddwr Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac ‘AMD’ ar gyfer Gofal Sylfaenol a Gwasanaeth yn y Gymuned i Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, lle yr oedd hefyd yn Gyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro.

Ar hyn o bryd, mae’n Ddirprwy Cyfarwyddwr Meddygol ar gyfer BIPBA, a Dirprwy Swyddog Cyfrifol a Gwarcheidwad Caldicott.