Neidio i'r prif gynnwy

Matrics Datblygu ar gyfer Gweithio Aml-Brofesiynnol

Mae'r gwaith yn plethu gyda’r Rhaglen Seilwaith Cymunedol a’r gwaith o ddatblygu fframwaith aml-broffesiwn i Gymru. Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael yn y Pecyn Cymorth ar Seilwaith Cymunedol.

Yn y gyfres hon o ffilmiau byr, mae’r Athro Mark Llewellyn o Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru yn disgrifio ac yn esbonio’r Matrics Datblygu ar gyfer Gweithio Aml-broffesiwn y mae ef a’i gydweithwyr wedi’i ddatblygu. Mae’r gwaith hwn wedi’i arwain gan yr Athro Carolyn Wallace ochr yn ochr â Mark a’u cydweithiwr Sophie Randall, ac mae’n darparu ‘map ffordd’ sy’n seiliedig ar dystiolaeth i dimau, unigolion a rheolwyr er mwyn eu galluogi i wneud hunanasesiad o’u taith tuag at waith amlbroffesiwn da.

Yn sail i’r Matrics Datblygu mae Adolygiad Cwmpasu  o lenyddiaeth berthnasol sydd wedi’i chyhoeddi, ac ymarfer creu consensws Mapio Cysyniad Grŵp ar-lein sy’n canolbwyntio ar eitemau data pwysig a dylanwadol o ran Gweithio Aml-Broffesiwn. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sy’n gweithio o fewn y sector gwirfoddol a’r sector cymunedol, y sector gofal cymdeithasol a’r sector gofal iechyd, ac mae wedi’i lywio gan bob un o’r safbwyntiau yma. Mae’r ffilmiau’n cynnig ffordd o ddeall beth yw diben y Matrics (Ffilm 1), sut mae’r Matrics yn gweithio (Ffilm 2), beth mae pob un o’r ‘parthau’ o fewn y Matrics yn ei gynnwys, a beth maen nhw’n ei olygu (Ffilmiau 3-10) , a ffilm olaf sy'n dod â'r holl ddeunydd at ei gilydd (Ffilm 11). Rydym yn fwriadol wedi eu gwneud yn fyr (fel arfer rhwng 2 a 3 munud o hyd) a gellir eu gwylio ar eu pen eu hunain, neu mewn cyfres - beth bynnag sy’n addas i chi.

Cyflwyniad - YouTube
Cyflwyniad Matrics - YouTube
Parth 1 - YouTube
Parth 2 - YouTube
Parth 3 - YouTube
Parth 4 - YouTube
Parth 5 - YouTube
Parth 6 - YouTube
Parth 7 - YouTube
Parth 8 - YouTube
Sylwadau Cloi - YouTube