Neidio i'r prif gynnwy

Karl Bishop

Graddiodd Karl o Ysgol Ddeintyddol Caerdydd ym 1981 ac roedd yn berchen ar ei Bractis ei hun yn Ne Cymru, yn cynnig gwasanaeth deintyddol cyffredinol y GIG tan 1997.  Rhwng 1982 a 1997, roedd yn aelod o’r Pwyllgor Deintyddol Lleol ac yn ddarlithydd rhan amser yn Ysgol Ddeintyddol Caerdydd.  Rhwng 1992 a 1997, cwblhaodd hyfforddiant arbenigol yn Llundain a Sheffield, ac fe’i penodwyd yn Feddyg Ymgynghorol mewn Deintyddiaeth Adferol yn Ysbyty Treforys, Abertawe ym 1997.  Ers 1997, mae Karl hefyd wedi bod yn darparu gwasanaethau arbenigol preifat o bractis gwasanaeth deintyddol cyffredinol mawr y GIG yn Abertawe.  Ers 1997, mae Karl wedi cofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol fel arbenigwr mewn Deintyddiaeth Adferol, Endotonteg, Periodontoleg, a Phrosthodonteg.

Rhwng 2008 a 2018, roedd Karl yn aelod etholedig o Fwrdd y Gyfadran Llawdriniaeth Ddeintyddol yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon, ble roedd hefyd yn Uwch Is-ddeon ac yn gadeirydd ar sawl pwyllgor, gan gynnwys y pwyllgor Safonau Clinigol ac Addysg Ôl-raddedig.  Ef hefyd oedd Cadeirydd Pwyllgor Deintyddol Cymru rhwng 2008 a 2016.

Yn 2010, penodwyd Karl yn Gyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Deintyddiaeth gyda BIP Bae Abertawe ac yna’n Gyfarwyddwr Deintyddol yn 2015. Mae’n un o Gyfarwyddwyr Grŵp Gwasanaethau Tîm Gofal Sylfaenol BIP Bae Abertawe ac yn Gadeirydd Grŵp Cyfarwyddwyr Deintyddol Cymru.