Gall clystyrau chwarae rôl allweddol yn datblygu dulliau newydd o fynd i’r afael â heriau lleol, nodi prosiectau llwyddiannus ar gyfer cynyddu/prif ffrydio, ac addasu neu weithredu dysgu blaenorol o bob rhan o Gymru
Datblygu syniadau arloesol
Mae arloesedd yn cynnwys datblygu polisïau, systemau, cynnyrch a thechnolegau a gwasanaethau a dulliau cyflenwi newydd neu well sy’n gwella iechyd pobl, gyda ffocws arbennig ar anghenion poblogaethau agored i niwed (WHO, 2016). Mae’r adnoddau canlynol yn cynnig cipolwg o sut i ddechrau a chynnig syniadau clwstwr mewn amgylcheddau cefnogol:
- Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (WG): Manylion i’w cadarnhau; model rhesymeg drafft a gyhoeddwyd ar gyfer Strategaeth Arloesedd i Gymru, Rhag 2021 (yma yn anelu at fabwysiadu mwy o arloesedd; gwella canlyniadau i gleifion/ dinasyddion; gwella profiad cleifion/ dinasyddion; ac effeithlonrwydd gwell adnoddau.
- Caring to change: how compassionate leadership can stimulate innovation in health care (The King’s Fund, 2017): Mae’r papur hwn yn edrych ar dosturi – sy’n cynnwys mynychu, deall, empatheiddio a helpu – fel gwerth diwylliannol craidd y GIG a sut mae arweinyddiaeth dosturiol yn arwain at amgylchedd gwaith sy’n annog pobl i ganfod ffyrdd newydd a gwell o wneud pethau.
- Open innovation in health: A guide to transforming healthcare through collaboration (NESTA, 2017): Mae’r canllaw hwn yn archwilio enghreifftiau o arloesedd agored ym maes iechyd o bob cwr o’r byd. Mae’n dadansoddi’r ffyrdd y mae cwmnïau, llywodraethau, ymchwilwyr a dinasyddion yn cydweithio i wella’r broses arloesi, o’r ffordd y mae problemau’n cael eu hadnabod i sut y mae cynnyrch a gwasanaethau newydd yn cael eu creu ac yna eu mabwysiadu gan ddarparwyr gofal iechyd.
- Crafting an elevator pitch (Mind Tools): Mae araith esgynnydd yn araith fer, ddarbwyllol, a ddefnyddir i ennyn diddordeb yn yr hyn mae eich sefydliad yn ei wneud. Gallwch ei defnyddio hefyd i greu diddordeb mewn prosiect, syniad neu gynnyrch – neu ynoch chi.
- Creating a value proposition (Mind Tools): cyfleu manteision eich cynnig yn syml ac eglur.
Diagramau sbarduno i gefnogi arloesedd clwstwr
Mae diagramau sbarduno yn cynnig offeryn i helpu i gynllunio prosiectau gwella. Gallant:
- Darparu eglurder a strwythur i dimau clinigol, sy’n canolbwyntio ar gyflawni gweithredol
- Gellir eu defnyddio i drawsnewid nodau gwella yn gyfres resymegol o ffactorau lefel uchel (prif ysgogwyr) y mae angen dylanwadu arnynt er mwyn cyflawni’r canlyniadau y cytunwyd arnynt
- Nodi’r prosiectau/gweithgareddau penodol sydd eu hangen i weithredu ar y ffactorau lefel uwch.
Mae’r dull strwythuredig hwn yn helpu i ddyrannu tasgau i unigolion neu grwpiau ac mae’n darparu amcangyfrif o’r sgiliau a’r gallu sydd eu hangen i gyflawni’r camau y cytunwyd arnynt. Mae hyn hefyd yn annog dull o flaenoriaethu amcanion pan fydd disgwyliadau lluosog sy’n cystadlu â’i gilydd.
Mae gwasanaethau sylfaenol a chymunedol yn gymhleth a gall fod yn heriol cyflawni arloesedd yn y lleoliadau hyn. Gellir defnyddio diagramau sbarduno er mwyn sicrhau ymgysylltiad clinigol (drwy esbonio’r prosiect mewn trefn resymegol a gyda thasgau wedi’u diffinio) ac i egluro beth y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol o fewn amcanion tîm clwstwr bach. Gallai byrddau iechyd ddatblygu timau arloesedd hefyd sy’n meddu ar y sgiliau a’r gallu i wella timau lleol ar gyfer blaenoriaethau a nodwyd.
Dylid ychwanegu tasgau na ellir eu cyflawni i gofrestrau risg lleol er mwyn darparu dadansoddiad clir o’r potensial ar gyfer gwella heb ei drafod.
Dylid annog cydweithrediadau proffesiynol i gynhyrchu cynigion gwella fel grwpiau annibynnol ar draws ffiniau systemau. Dylai systemau grwpiau cynllunio clystyrau cyfan sefydlu systemau i dderbyn ac ystyried y cyflwyniadau hyn, gan sicrhau yr eir i’r afael ag ymdrechion gwella yn unol â’r blaenoriaethau lleol y cytunwyd arnynt. Dylai gwerthusiad fod yn rhan annatod o bob cynnig a dylid rhannu dysgu. Dylid cynnal amserlen o brosiectau cyfredol er mwyn monitro cynnydd a sicrhau bod cylchoedd o newid yn cael eu cwblhau.
Mae diagramau sbarduno enghreifftiol yn cynnwys:
- Enghreifftiau o ddiagramau sbarduno IHC (lluosog), yma
- Gofal diogel a ddibynadwy i gleifion, yma
- Gwaith gwella ansawdd o ran COVID-19, yma
Uwchraddio o brosiectau peilot
Bwriedir i brosiectau peilot wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio. Gall fod yn heriol uwchraddio pethau sy’n gweithio ar raddfa fach i raddfa fwy (e.e. ôl-troed bwrdd iechyd neu Gymru gyfan); mae cyngor ar gael yn yr adnoddau canlynol:
Dysgu o’r Rhaglen Pennu Cyfeiriad
Roedd dysgu a gasglwyd drwy werthusiad beirniadol Rhaglen Pacesetter Gofal Sylfaenol Cenedlaethol Prifysgol Birmingham, 2018) yn nodi chwe galluogwr trawsnewid. Mae’r galluogwyr hyn yn cael eu cydnabod yn allweddol i drawsnewid systemau iechyd yn llwyddiannus, yn y DU ac yn rhyngwladol. Noder bod rhaglenni Pacesetter wedi’u disodli gan y Rhaglen Strategol ar gyfer y Gronfa Gofal Sylfaenol o fis Ebrill 2022:
- Hwyluso: Mae proses hwyluso allanol ar gael i bractisau cyffredinol er mwyn darparu capasiti ac arbenigedd ychwanegol wrth ymgymryd â thrawsnewidiad.
- Arwain: Nodir arweinwyr clinigol ac anghlinigol ar gyfer y rhaglen o’r practisau ac o rwydweithiau gofal sylfaenol lleol os yw’n berthnasol a rhoddir amser, cefnogaeth a gofod iddynt adlewyrchu ar y broses drawsnewid.
- Dysgu: Mae dysgu a datblygiad mewn cysylltiad â sgiliau newydd ar gael, ac mae cyfle i ddysgu o’r broses weithredu drwy adlewyrchiad strwythuredig ar dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg.
- Ymgysylltu: Mae ymgysylltiad rhanddeiliaid gyda chleifion, cymunedau a’r rhwydweithiau clinigol ehangach wedi’i ymgorffori yn gyffredinol, gyda buddsoddiad digonol mewn seilwaith, capasiti a sgiliau cysylltiedig.
- Cyllid: Cyllid pontio i alluogi i weithgareddau presennol barhau wrth i ddulliau newydd gael eu cyflwyno a rhyddhau capasiti i arweinwyr clinigol ac anghlinigol.
- Gwerthuso: Gwerthusiad cadarn i ddarparu gwybodaeth ffurfiannol a chrynodol yn erbyn amcanion a llinellau sylfaen glir.