Neidio i'r prif gynnwy

4 – Sicrhau gwaith monitro a gwerthuso

Mae monitro yn cyfeirio at bennu targedau a cherrig milltir i fesur cynnydd a chyflawniad ac i gadarnhau a yw’r mewnbynnau’n cynhyrchu’r allbynnau a gynlluniwyd, h.y. mae’n penderfynu a yw gweithrediad yn gyson â’r bwriad dylunio – sy’n awgrymu y gallwn addasu ein dull yn ystod y cyfnod monitro.  Nid yw gwerthusiad ond yn golygu arddangos llwyddiant yn y pen draw; mae hefyd yn darparu gwybodaeth pam nad yw pethau’n gweithio (oherwydd mae gwerth cyfartal i ddysgu o gamgymeriadau).  Nid yw monitro a gwerthuso yn golygu cael gwybod am bopeth (sy’n frawychus), ond maent yn canolbwyntio ar y pethau o bwys.

Monitro prosiectau
Mewn cyd-destun rheoli prosiect cyffredinol, mae monitro yn cynnwys goruchwylio cynnydd gwaith prosiect a diweddaru cynlluniau’r prosiect i adlewyrchu’r perfformiad gwirioneddol (Axelos). Yng nghyd-destun gofal iechyd Cymru, mae’r Fframwaith Ansawdd a Diogelwch (Llywodraeth Cymru; 2021) yn disgrifio dyletswydd gyffredinol o “reoli ansawdd” i sicrhau bod y gofal yn cyflawni’r chwe maes ansawdd (gofal sy’n ddiogel, sy’n effeithiol, sy’n canolbwyntio ar y claf, sy’n amserol, sy’n effeithlon ac sy’n deg.  Mae gwaith mesur a monitro cefnogol yn galluogi:

  • Sicrwydd o gynnydd gweithredu, yn unol â’r disgwyliadau cyflawni o ran graddfa a chyflymder
  • Dull o gofnodi a rhannu dysgu sy’n dod i’r amlwg ar lefel leol (yn arbennig pan fydd cofnod cyfoesol yn cael ei gynnal) ac ar sail ranbarthol neu genedlaethol (fel arfer drwy adroddiadau interim), gan gyflawni’r gwerth mwyaf o brofiad gweithredu cynnar a pharhaus.
  • Sicrhau bod prosiectau yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflawni’n llwyddiannus (gallai nodi gofynion cymorth ychwanegol/ ailgyfluniadau er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn y gwaith cynllunio)
  • Cofnodi a rheoli (perchnogaeth, mesurau lliniaru ac ati) materion a risgiau —p’un a ydynt wedi’u rhagweld neu’n dod i’r amlwg
  • Cywiro cwrs adferol, neu derfynu prosiect yn annisgwyl wrth wynebu risgiau anorchfygol, niweidiau gwirioneddol neu gyfyngiadau o ran adnoddau ac yn y blaen, sy’n dibrisio’r achos busnes.

Gwerthuso prosiect
Mae gwerthuso yn cyfeirio at y broses strwythuredig o asesu llwyddiant prosiect neu raglen yn cyflawni ei nodau ac adlewyrchu ar y gwersi a ddysgwyd.  Y gwahaniaeth allweddol rhwng monitro a gwerthuso yw bod gwerthuso yn gosod barn gwerth ar y wybodaeth a gasglwyd yn ystod prosiect (Cynghorau Ymchwil y DU; 2011), gan gynnwys y data monitro.  Gall yr asesiad o lwyddiant prosiect (ei werthusiad) fod yn wahanol yn ddibynnol ar farn gwerth pwy a ddefnyddir.  Mae gwerthusiad yn caniatáu:

  • Asesiad i ganfod a yw prosiect wedi cyflawni ei nodau bwriadedig
  • Deall sut mae prosiect wedi cyflawni ei ddiben bwriadedig, neu pam nad yw wedi gwneud hynny
  • Nodi pa mor effeithlon y mae’r prosiect wedi trosi adnoddau (arian neu mewn nwyddau) yn weithgareddau, allbynnau (amcanion) a chanlyniadau (nodau)
  • Asesiad o ba mor gynaliadwy ac ystyrlon fu’r prosiect i gyfranogwyr
  • Hysbysu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch y camau nesaf.

Gallai gwerthusiadau o wasanaethau gynnwys cynigion ymchwil (gyda’r nod o ddatrys cwestiynau heb eu hateb o bosibl) neu arwain adolygiad o’r achos busnes presennol (gweler adran 3), sy’n arwain at benderfyniad i uwchraddio prosiect arloesol, llwyddiannus (gweler adran 5), parhau fel y mae neu gyda gwelliannau, neu atal y prosiect.  O ran gwerthusiad:

  • Mae’n cael ei ystyried yn gamarweiniol yn nhermau cynnyrch gweladwy yn y pen draw (er enghraifft adroddiad gwerthuso), ond mae’n fwy cadarn o’i gyflwyno fel gweithgarwch “cyn, yn ystod ac ar ôl” sy’n cael ei gynnal ochr yn ochr â’r prosiect ei hun.
  • Mae’n well ei gynllunio’n rhagolygol, a chasglu data yn gyfoesol (h.y. monitro) yn ystod gweithredu asesiad crynodol o ganlyniadau wedi’u diffinio ymlaen llaw; gall gwerthusiadau ôl-weithredol fod yn fuddiol, ond gallant fod yn destun rhagfarn ychwanegol.
  • Mae’n well cynnal gwerthusiad o dan oruchwyliaeth rhywun o’r tu allan i’r prosiect (unwaith eto er mwyn lleihau rhagfarn) a gyda chyfraniadau cynrychioliadol (e.e. gyda chyfranogiad y darparwr gwasanaeth a’r defnyddiwr).
  • Gellir eu gwella drwy gynnwys data meintiol (rhifau e.e. costau) ac ansoddol (naratif neu “brofiad bywyd” e.e. drwy gyfweliadau).
  • Gall defnyddio templedi model rhesymeg a/ neu gynllun gwerthuso (gweler isod) gynorthwyo gyda hyn.

Modelau rhesymeg
Gall modelau rhesymeg helpu i wirio synnwyr yr elfennau y mae’n ofynnol iddynt ddod ynghyd i gynllunio, cyflawni a gwerthuso prosiect yn llwyddiannus.  Gellir eu cynnwys mewn cynlluniau prosiect o’r dechrau, neu gallant hysbysu cynllun monitro a gwerthuso pwrpasol drwy ysgogi’r canlynol:

  • Mewnbynnau: Y pethau allweddol sydd eu hangen arnom i fuddsoddi/sefydlu i gefnogi’r gweithgarwch
  • Gweithgareddau: Beth i’w wneud gyda’r mewnbynnau
  • Allbynnau: Beth rydym yn ei gynhyrchu o ganlyniad i’r gweithgareddau
  • Canlyniadau: Beth fydd ein canlyniadau yn ei gyflawni i bobl neu wasanaethau (nodau; gall y rhain amrywio dros amser e.e. tymor byr, tymor canolig neu dymor hir a dylent fod yn rhai CAMPUS)
  • Effeithiau: Uchelgeisiau lefel uchel, yn y pen draw e.e. nodau pedwarplyg Cymru iachach
  • Rhwystrau: Yr hyn y gallai fod yn anodd i ni ddylanwadu arno neu ei oresgyn (e.e. ffactorau allanol)
  • Rhagdybiaethau: Beth rydym yn gobeithio sydd eisoes ar waith (amodau cefnogol ac yn y blaen).

Mae model rhesymeg yn ceisio sefydlu cysylltiadau dilyniannol rhwng yr elfennau uchod, ar ffurf tabl aml-res neu ddiagram.  Weithiau mae’n haws eu poblogi o’r dde i’r chwith, yn hytrach nac o’r chwith i’r dde (gan ddechrau gyda’r mewnbynnau).  O ran gwybodaeth gefndir am fodelau rhesymeg, dylech gyfeirio at yr adnoddau canlynol:

  • Modelau rhesymeg (Data Cymru): Defnyddio modelau rhesymeg i gynllunio, mapio a nodi’r gweithgareddau a’r mewnbynnau sy’n arwain at ganlyniadau, ac i ddeall y newidiadau a ddymunir a phwy fydd yn gyfrifol amdanynt.
  • Defnyddio modelau rhesymeg i werthuso (Yr Uned Strategaeth): Paratowyd y wybodaeth hon gan GIG Lloegr, gan yr Uned Strategaeth, fel rhan o raglen hyfforddiant i gefnogi gwerthusiad cenedlaethol a lleol o raglen a safleoedd Vanguard.

Mae templed o fodel rhesymeg syml i’w weld yn “Adnoddau cymorth ychwanegol” (isod)

Cynlluniau gwerthuso
Nid oes unrhyw fformwla hud ar gyfer datblygu cynllun gwerthuso cyffredinol.  Pe byddai gwerthusiad yn ôl-ystyriaeth i ryw raddau (mae’n digwydd!), gall adolygiad adlewyrchol a chynhwysol ar ôl cwblhau’r prosiect adfer rhywfaint o werth drwy holi “Beth wnaeth lwyddo?  Beth oedd yn llai llwyddiannus?  Sut allwn ni wneud hyn yn wahanol y tro nesaf?”  Gallai cynllun gwerthuso syml holi’r canlynol:

  • Beth ydym ni eisiau ei wybod? Cwestiwn/cwestiynau’r gwerthusiad; y “pethau pwysig”
  • Sut fyddwn ni’n gwybod hyn?  Y dangosyddion llwyddiant (neu niwed) y byddwn yn eu defnyddio
  • Sut fyddwn ni’n casglu data dangosol? Y ffynhonnell/ffynonellau data a’r dull dadansoddi
  • Pryd / lle y cesglir y data?  Amserlenni ac offer e.e. pwynt gofal
  • Pwy fydd yn gwneud hyn?  Monitro a gwerthuso rolau a chyfrifoldebau.

Mae templed syml o gynllun gwerthuso ar gael yn “Adnoddau cymorth ychwanegol” (isod); gwnewch yn siŵr eich bod yn trin a thrafod pob cwestiwn gwerthuso ar ei res ei hun  Mae Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau yn cynnig enghreifftiau o werthusiadau clwstwr gwirioneddol o: uwch ymarferwyr awdioleg; uned triniaeth; gwerthusiad/ therapïau; Mind ym Mro Morgannwg ; ac arloesedd/ gwerthusiad Cartref gofal ANP.

Cynllun monitro a gwerthuso Model Gofal Sylfaenol Cymru a Datblygu Clwstwr Carlam
Mae cynllun monitro a gwerthuso gweithrediad Model Gofal Sylfaenol Cymru a’r Rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam yn datgan sut y bydd yr uchelgeisiau trawsnewid hyn yn darparu sicrwydd o gynnydd, dysgu a rennir a chefnogi proses o ddod â chynllunio lleol a rhanbarthol at ei gilydd.  Mae’n disgrifio cyflwyniad cam-ddoeth nifer o offerynnau a chynnyrch ategol:

  • Dangosfwrdd dangosyddion allweddol:  teil byw ar y Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol ar gyfer metrigau adrodd ynghylch Model Gofal Sylfaenol Cymru, Datblygu Clwstwr Carlam a chanlyniadau eraill gofal sylfaenol
  • Offer hunan-adlewyrchu: holiadur ar-lein blynyddol sy’n holi clystyrau beth sydd wedi llwyddo, beth oedd yn llai llwyddiannus neu beth y gellir fod wedi’i wneud yn wahanol
  • Fframwaith Datblygu Clwstwr: mae hyn yn nodi’r safonau a’r meini prawf aeddfedrwydd disgwyliedig ar gyfer arddangos cynnydd gweithrediad
  • Proses adolygu cyfoedion: mae hyn yn disgrifio sut y bydd clystyrau a byrddau partneriaeth rhanbarthol yn ymwneud â gwerthusiadau datblygiadol unwaith fesul cylch Cynllun Tymor Canolig Integredig
  • Adroddiad cynnydd gweithrediad cenedlaethol: adroddiad blynyddol interim (monitro) sy’n crynhoi cynnydd a dysgu allweddol hyd yma
  • Dadansoddiad o gyfraniad: y dull o fynd i’r afael â gwerthusiad diweddbwynt sy’n addas ar gyfer deall cymhlethdod.

Gweler hefyd Pecyn Offer ACD sy’n cynnwys manylion cynllun monitro a gwerthuso Model Gofal Sylfaenol Cymru a Datblygu Clwstwr Carlam.

Adnoddau cymorth ychwanegol
Mae’r adnoddau canlynol yn darparu gwybodaeth gefndir bellach am ddiffinio gofynion monitro a gwerthuso:

  • Cynllunio prosiect clwstwr: Mae Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau yn trafod cofnodi a monitro a gwerthuso (Atodiad 12).
  • Adnoddau i’ch helpu i ddatblygu eich clwstwr: Mae hyn yn cynnwys adran ar werthuso (rhan o Gwaith Clwstwr yng Nghymru)
  • ​​​​​​​Modelau rhesymeg mewn gwerthusiadau: Mae Canllaw Arfer Da i Lywodraethu Clystyrau yn trafod cydrannau model rhesymeg, trafodaeth o’r mathau o werthusiadau ac mae’n darparu templedi model rhesymeg a chynllun gwerthuso.
  • ​​​​​​​Canllaw cyflwyniadol i werthuso (Data Cymru): Bydd y canllaw hwn yn cynorthwyo eich dealltwriaeth o beth yw gwerthusiad a pham ei fod yn bwysig ar gyfer eich prosiectau, rhaglenni a pholisïau; mae’n rhoi’r wybodaeth sylfaenol i chi er mwyn i chi ddeall pam a phryd y gallech gynnal gwerthusiad; mae’n darparu gwybodaeth i chi am y dulliau a’r prosesau y gallech eu defnyddio i gynnal gwerthusiad effeithiol; a darparu awgrymiadau i dywys a chefnogi ymhellach.​​​​​​​
  • The Magenta Book: Guidance for evaluation (Trysorlys EM): The Magenta Book yw’r canllaw a argymhellir gan lywodraeth ganolog ar werthuso sy’n cyflwyno arfer gorau i adrannau ei ddilyn; wedi’i argymell gan Data Cymru fel yr adnodd gwerthuso gorau.
  • ​​​​​​​Mae arbenigedd monitro a gwerthuso yn adnodd prin; gallai fod ar gael drwy dimau iechyd y cyhoedd lleol, neu gan bartner academaidd (a fydd yn gallu ychwanegu trylwyredd a helpu i ddosbarthu dysgu, fel arfer yn gyfnewid am fynediad at ddata).