Neidio i'r prif gynnwy

2c – Datblygu cynlluniau: tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio

Mae manteision penderfyniadau sy’n cael eu hysbysu gan dystiolaeth yn hysbys.  Mae peidio defnyddio tystiolaeth i hysbysu penderfyniadau (pan fydd tystiolaeth ar gael) yn creu’r risg o wneud y peth anghywir – sy’n arwain at ganlyniadau is na’r safon ddisgwyliedig neu ni chyflawnir y canlyniadau bwriadedig, costau cyfle gwastraffu arian ac ymdrech, a niweidiau y gellir eu hosgoi o bosibl).  Gall dibynnu ar synnwyr cyffredin, barn arbenigol neu brofiad achosi problemau (yr enghraifft glasurol yw cyngor angheuol Dr Spock i osod babanod i gysgu ar eu blaenau).  Nid tystiolaeth yw’r unig ddylanwad ar brosesau gwneud penderfyniadau (gweler adran 2d). 

Diffinio’r cwestiwn
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd mynegi cwestiwn clir fel rhagarweiniad i ganfod tystiolaeth briodol.  Mae cwestiwn da yn helpu i sicrhau bod y dystiolaeth yn cyd-fynd â’r cwestiwn, yn hytrach na’r cwestiwn yn addasu i gyd-fynd â’r dystiolaeth.  Mae’n:

  • Tywys eich strategaeth chwilio (eich dull o ddewis ffynonellau a chystrawen).
  • Helpu i gadarnhau a yw’r dystiolaeth rydych wedi’i chanfod yn berthnasol i’r mater/ problem dan sylw (h.y. dethol a gwerthuso).
  • Helpu i benderfynu sut y gallech gyfosod tystiolaeth (h.y. gwneud synnwyr rhesymegol o’r hyn sy’n berthnasol yn eich tyb chi).
  • Sicrhau cydbwysedd ar draws dimensiynau eglurder, ffocws a chymhlethdod.

Mae’r cofair PICO yn ddull defnyddiol (mae yna amrywiadau eraill) ar gyfer tynnu sylw at anatomi pwrpasol eich cwestiwn a dylunio eich strategaeth chwilio:

  • Claf, Poblogaeth neu Broblem e.e. 65+ oed yng Nghymru neu Diabetes Math 2
  • Ymyrraeth e.e. cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff neu gyngor ffordd o fyw
  • Cymharydd(cymaryddion) e.e. gofal arferol neu ragnodi Wonderstatin
  • Canlyniad(au) e.e. colli 10% o bwysau, sgôr risg CHD

Canfod tystiolaeth
Gellir ceisio tystiolaeth ar yr hyn sy’n gweithio i gadw pobl yn iach neu i gefnogi ymatebion i anghenion (sy’n gysylltiedig â salwch).  Mae tystiolaeth yn cyfeirio at ganfyddiadau o ymchwil a gwybodaeth o ffynonellau eraill sydd â gwerth i helpu i wneud penderfyniadau.  O ran tystiolaeth:

  • Mae angen barn bwrpasol i gadarnhau a yw’r math/ffynhonnell yn gymesur i’r penderfyniad y bydd yn ei hysbysu (nid oes fformiwla yn anffodus).  Bydd yr hyn sy’n dystiolaeth berthnasol hefyd yn ddibynnol ar y cwestiwn sy’n cael ei holi (gweler uchod).
  • Efallai y bydd diffyg tystiolaeth, ac os felly mae opsiwn i arloesi (adran 5) a gwerthuso (adran 4).  Mae hyn yn wahanol i gael tystiolaeth o ddim effaith; yn yr achos hwn, peidiwch â’i wneud!
  • Yn ddelfrydol dylai ddisgrifio’r hyn sy’n gweithio, i bwy ac ym mha gyd-destun.  Mae hyn yn galw am eglurhad o’r ffactorau a allai gael dylanwad ar lwyddiant ymyrraeth y rhagwelir iddi weithio mewn amodau delfrydol (effeithlonrwydd) yn ymarferol (effeithiolrwydd) – gan gynnwys yng nghyd-destun GIG Cymru.
  • Gellir ei nodweddu fel hierarchaeth yn ôl dyluniad yr astudiaeth neu, gyda lens iechyd y boblogaeth, o’r gorau (yn gyffredinol) i’r lleiaf dibynnol: canllawiau ar sail tystiolaeth (e.e. NICE); adolygiadau systematig o ymchwil (h.y. ffynonellau eilaidd); prif ymchwil (astudiaethau unigol o wahanol ddyluniadau sy’n gwasanaethu gwahanol ddibenion) a “nid ymchwil”.  Fodd bynnag, gall gwerthusiadau cadarn o wasanaethau fod yn werthfawr iawn.

Ceisiwch fod yn agored ynghylch sut mae tystiolaeth yn cael ei cheisio, ei dethol a’i gwerthuso a chydnabod cyfyngiadau’r dull rydych wedi’i ddewis.

Ffynonellau tystiolaeth
Gellir caffael tystiolaeth o un neu fwy o’r categorïau ffynhonnell canlynol:

  • Crynodebau sy’n integreiddio tystiolaeth o’r isaf yn yr hierarchaeth ac ar draws ffynonellau lluosog (gweler isod).
  • Cronfeydd data llyfryddol, er enghraifft MEDLINE, sydd ar gael drwy e-lyfrgell GIG Cymru.
  • Gwefannau sy’n perthyn i sefydliadau, sy’n cynnwys safonau polisi neu ofal proffesiynol perthnasol e.e. RCGP.
  • Cyfnodolion pynciau penodol, y gellir chwilio drwyddynt am erthyglau perthnasol ar-lein neu â llaw.
  • Pyrth chwilio e.e. Trip neu Hwb Gwybodaeth a Llyfrgell y GIG (mae’r ddwy ffynhonnell yn caniatáu mynediad PICO)
  • Peiriannau chwilio e.e. Google neu Google Scholar Gellir eu defnyddio’n fedrus i wella penodolrwydd y canlyniadau.  Cynghorir defnyddio’r prawf CRAP (Currency; Reliability/ Relevance; Authority/ Audience; and Purpose/ Point of view).

Mae ffynonellau crynodebau sydd wedi’u crynhoi ymlaen llaw (tystiolaeth eilaidd) er mwyn gwella yn cynnwys:

Canllawiau NICE: Argymhellion ar sail tystiolaeth a ddatblygwyd gan bwyllgorau annibynnol,  sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol ac aelodau lleyg, ac sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad gan randdeiliaid.

  • Safonau ansawdd NICE: Pennu meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella ansawdd; pwysleisio meysydd ag arfer presennol amrywiol.
  • Crynodebau gwybodaeth glinigol NICE: Darparu crynodeb hygyrch i ymarferwyr gofal sylfaenol o’r dystiolaeth bresennol a chanllaw ymarferol ar arfer gorau.
  • Cylchlythyr diweddariad ar gyfer gofal sylfaenol NICE: Gellir tanysgrifio i dderbyn newyddion a chanllawiau misol ar gyfer meddygon teulu a staff gofal sylfaenol.
  • Adolygiadau yn Llyfrgell Cochrane Casgliad o gronfeydd data sy’n cynnwys gwahanol fathau o dystiolaeth annibynnol safonol a thystiolaeth annibynnol i hysbysu penderfyniadau gofal iechyd.
  • Arfer Gorau BMJ: Offer pwynt gofal cyffredinol ar sail tystiolaeth, sydd wedi’i strwythuro mewn ffordd unigryw o amgylch ymgynghoriad y claf gyda chyngor ar werthuso symptomau, trefnu profion a’r dull trin.
  • Gwasanaeth Tystiolaeth yr Arsyllfa (OES) Iechyd Cyhoeddus Cymru: Adolygiadau systematig, mapiau tystiolaeth a chrynodebau cyflym; mae’r casgliadau’n cwmpasu Covid-19, ymddygiad iechyd, a phenderfynyddion ehangach iechyd. Gweler hefyd yr eirfa a rhestr o ffynonellau i gael tystiolaeth eilaidd werthfawr, a ddefnyddir gan OES i greu mapiau tystiolaeth.

Gweler hefyd Gwybodaeth iechyd y boblogaeth yn ôl pwnc sy’n ymgorffori opsiynau gweithrediadau gwella pynciau penodol.

Dethol a gwerthuso tystiolaeth
Gwerthusiad beirniadol yw’r broses o archwilio tystiolaeth ymchwil yn ofalus ac yn systematig i farnu ei ddibynadwyedd, ei werth a’i berthnasol mewn cyd-destun penodol (Burls 2009). Am nad yw adolygiadau cyfoedion yn warant o ansawdd, dylid cynnal rhyw lefel o werthuso beirniadol ar gyfer yr holl dystiolaeth rydych wedi’i dethol fel y bo’n berthnasol, sut bynnag y’i cyhoeddir. Fel arfer mae gwerthuswyr academaidd / proffesiynol yn defnyddio rhestrau gwirio dyluniad penodol ar gyfer erthyglau cyfnodolion (e.e. CASP); gallwch ofyn y cwestiynau beirniadol canlynol i helpu i sifftio i ganfod y rhai defnyddiol (Gweler hefyd casgliad How to read a paper BMJ):

  • A yw o ddiddordeb? Sganio’r teitl/ crynodeb.
  • Pam mae wedi’i ysgrifennu? Sganiwch y cyflwyniad.
  • Sut y cafodd ei ysgrifennu? Sganiwch yr adran dulliau.
  • Beth a ganfuwyd? Sganiwch yr adran canlyniadau.
  • Beth yw’r goblygiadau? Sganiwch y crynodeb/ trafodaeth ac ystyried cyd-destunoli (A ellir addasu hyn i gyd fynd â’r cyd-destun lleol/ Cymru?).
  • Pwy wnaeth ei ariannu? A yw’r ffynhonnell gyllido/ datganiadau o fuddiant yn awgrymu rhagfarn bosibl?

Rhannu’r hyn a ddysgir ac arbenigedd
Dylai manteision rhannu gwybodaeth a phrofiad (sy’n cynnwys llwyddiannau a methiannau) fod yn amlwg.  Mae cydweithio yn un ffordd o hwyluso hyn, fodd bynnag, rydym yn wael am rannu gwybodaeth ar y cyfan (e.e. adroddiadau gwerthuso) a’u gweithredu cyn dysgu, o fewn ac ar draws sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru.  Gellir dweud bod yr un peth yn wir am rannu gyda ac o gymunedau/defnyddwyr gwasanaeth.  Gallai opsiynau i atgyfnerthu defnydd tystiolaeth trwy brofiad gynnwys:

  • Blwyddlyfrau clwstwr, sy’n gallu bod yn dystiolaeth i ddarganfod beth sydd wedi gweithio mewn rhannau eraill o Gymru (2019; TBC)
  • Cyflwyniadau/ gweithdai yn y Gynhadledd Gofal Sylfaenol Genedlaethol
  • Digwyddiadau dysgu ad hoc
  • Rhwydweithio drwy gyfranogi mewn fforymau gofal sylfaenol amrywiol (e.e. Rhwydwaith Arweinwyr Clwstwr).
  • Ymrwymo i werthuso a chyhoeddi ar ddulliau arloesol (e.e. gweler adran 5)
  • Mynd ati i chwilio’n weithredol am gyfleoedd partneriaeth (gweler dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar asedau, adran 2a)
  • Ymgysylltu a chyd-gynhyrchu gyda defnyddwyr gwasanaeth (gweler dulliau gweithredu cyfranogol, adran 2a)
  • Gweithredu’r hyn a ddysgwyd o’r Rhaglen Pacesetter (gweler adran 5).

Gellir fframio templed syml i gefnogi proses ehangach o rannu’r hyn a ddysgwyd o rannau eraill o Gymru o amgylch y cwestiynau canlynol:

  • Pa broblem oedd yn cael ei thrafod?
  • Beth a wnaed i fynd i’r afael â hyn?
  • Sut mae hyn yn dangos arfer da?
  • Pa ddysgu allweddol y gellir ei rannu?
  • Pwy wnaeth hyn neu gyda phwy y gellir cysylltu â hwy gydag unrhyw ymholiadau?

Adnoddau ategol
Gallai datblygu cyfleoedd ar gyfer timau/ staff ategol clystyrau gynnwys:

  • Dod yn gyfarwydd â’r “hierarchaeth tystiolaeth” ac ystyried addasrwydd y ffynonellau tystiolaeth/ dulliau cyfosod i’w diben.
  • Gwneud defnydd mwy effeithiol o Google (neu offer chwilio eraill).
  • Dysgu mwy am yr hyn mae cyfrif OpenAthens o e-Lyfrgell GIG Cymru yn ei gynnig (mynediad dilys i adnoddau electronig).
  • Mae gan dimau iechyd cyhoeddus lleol (er eu bod yn rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru) fynediad at gyfres o ganllawiau tystiolaeth (mewnrwyd yn unig), i’w defnyddio gan staff Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unig. Mae’r rhain yn cynnwys holi’r cwestiwn; canfod y dystiolaeth; adolygu’r dystiolaeth; gwerthusiad beirniadol a gweithredu ar dystiolaeth.  Fodd bynnag, Ni ddylid eu hailadrodd neu eu rhannu mewn unrhyw amgylchiadau gyda sefydliadau allanol oni thrafodir hyn yn gyntaf gyda’r Gwasanaeth Tystiolaeth.”