Neidio i'r prif gynnwy

2b – Datblygu cynlluniau: rheoli iechyd y boblogaeth

Mae rheoli iechyd y boblogaeth yn “lens” amgen i asesiad anghenion traddodiadol.  Mae’n golygu edrych ar yr un boblogaeth gan ddefnyddio data ar lefel cleifion wedi’u trefnu yn gydrannau neu glystyrau ar sail anghenion.  Mae’n archwilio’r defnydd o adnoddau yn seiliedig ar gyffredinedd risg i ddisgrifio anghenion gofal, gan hwyluso’r defnydd gorau o’r ddarpariaeth gofal a’r defnydd o adnoddau yn unol ag egwyddorion gofal iechyd darbodus

Mae rheoli iechyd y cyhoedd fel dull gweithredu yng Nghymru wedi’i dreialu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTM) ac mae’n cynnwys cydrannau â chyswllt agos o gylchrannu, haenu risgiau a dadansoddi amrywiad wedi’i addasu achosion cymysg.  Yn bwysicach, dylid ystyried asesiadau traddodiadol o anghenion a rheoli iechyd y boblogaeth fel elfennau cyflenwol wrth iddynt fynd i’r afael ag anghenion cyflawni cynllunio a gofal iechyd penodol; maent yn rhannu’r her o drosglwyddo data yn wybodaeth y gellir gweithredu arni.

Cylchrannu
Mae cylchrannu’n cynnwys y nodweddion canlynol

  • Gall cylchrannu’r boblogaeth yn seiliedig ar ystod o ffactorau nodi grwpiau yn ôl eu hangen holistaidd a’u gallu i elwa ar ofal rhagflaenol.
  • Mae cylchrannu’n cynnwys cysylltu setiau data gofal sylfaenol, eilaidd, a, lle byddant ar gael, setiau data gofal cymunedol a chymdeithasol er mwyn ystyried newidynnau cymdeithasol-ddemograffig, morbidrwydd, y defnydd o ofal (e.e. derbyniadau cleifion mewnol dewisol, derbyniadau cleifion heb eu trefnu, derbyniadau cyntaf a dilynol cleifion allanol, ymweliadau i’r Adran Achosion Brys, ymweliadau i bractis meddyg teulu a phresgripsiynau), gwybodaeth am gostau a ffactorau risg.
  • Mae cylchrannau (grwpiau o gleifion) yn deillio ar sail proffiliau o anghenion a rennir.
  • Datgelodd canlyniadau cylchrannau mewn CTM bod angen gofal iechyd sylweddol a chymhleth yn nodwedd ar draws y grwpiau oedran a bod hyn wedi’i ysgogi gan amddifadedd a ffactorau risg ymddygiad yn hytrach nac oedran a chyfyngiadau swyddogaethol.
  • I gefnogi gwelliannau cynllunio i iechyd y boblogaeth, mae angen nodi a gweithredu camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth ar sail cylchrannau unigol.  Ystyrir mai teilwra ymyriadau i gylchrannau penodol yw’r ffordd orau o sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau gofal iechyd.

Haenu risgiau
Mae haenu risgiau yn cynnwys y nodweddion canlynol:

  • I gefnogi penderfyniadau clinigol, mae haenu risgiau cleifion unigol yn seiliedig ar fodel ACG John Hopkins (felly mae buddiannau lefel glinigol/unigol a lefel y boblogaeth i’r dull gweithredu hwn).
  • Mae sgorau risg yn cael eu llunio o newidynnau amrywiol (e.e. oedran, rhyw, meddyginiaeth, clefyd ac yn y blaen) a gellir eu defnyddio ar gyfer modelau rhagfynegol amrywiol (e.e. tebygolrwydd derbyniadau brys mewn ysbyty).
  • Gellir defnyddio’r sgorau hyn ar lefel practis meddyg teulu, clwstwr a bwrdd iechyd i nodi unigolion neu grwpiau o gleifion yn y grwpiau risg uchaf a fydd yn galluogi’r broses o reoli a lleihau risg drwy ofal wedi’i dargedu a gofal rhagweledol.

Amrywiad wedi’i addasu ar gyfer achosion cymysg
Mae dadansoddiad o amrywiad wedi’i addasu ar gyfer achosion cymysg yn adeiladu ar y data cylchrannu a haenu risgiau ac mae ganddynt y nodweddion canlynol:

  • Mae dadansoddiad o amrywiad wedi’i addasu ar gyfer achosion cymysg yn cynhyrchu mynegeion defnydd gofal iechyd amrwd ac wedi’u haddasu ar gyfer practisau, clystyrau a byrddau iechyd.
  • Mae addasu ar gyfer achosion cymysg yn galluogi cymhariaeth wirioneddol rhwng darparwyr neu ardaloedd.
  • Mae llwyfan adrodd yn galluogi cymhariaeth o gyfraddau wedi’u haddasu ar gyfer achosion cymysg gyda meddygon teulu dienw eraill yn y clwstwr, cyfartaledd y clwstwr, cyfartaledd y bwrdd iechyd, ac o bosibl ar draws clystyrau yn genedlaethol.
  • Unwaith eto, mae’n rhaid nodi ymyriadau ar sail tystiolaeth er mwyn hysbysu dulliau rheoli sy’n seiliedig ar ofal rhagweledol ac ataliol.

Gweithrediadau lleol
Nid oes dull rhaglen ar lefel Cymru gyfan i reoli iechyd y cyhoedd.  Gwnaed cynnig wedi’i nodi gan Gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus i ddatblygu’r dull gweithredu gyda nifer fach o glystyrau ym mhob bwrdd iechyd drwy’r Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol; sicrhaodd hyn gymorth mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru ond nid yw wedi’i ariannu hyd yma, yn rhannol oherwydd y pandemig Covid.  I gael y newyddion diweddaraf am y gweithgarwch presennol ac i ganfod a yw’r offer hyn ar gael i gefnogi asesiad o anghenion, dylai clystyrau gysylltu â’u timau gofal sylfaenol a/neu eu timau iechyd y cyhoedd lleol.