Dylai clystyrau allu cael mynediad at gyngor a chefnogaeth cynllunio arbenigol priodol ac amserol, cyfeirio at ganllawiau cynllunio presennol a chael mynediad at hyfforddiant/ adnoddau addas i ddatblygu galluoedd cynllunio mewnol.
Canllawiau cynllunio cenedlaethol
Mae canllawiau cynllunio cenedlaethol ar gael i hysbysu cynlluniau blynyddol clystyrau ar y ffurfiau canlynol:
- Fframweithiau cynllunio GIG Cymru: Canllawiau i helpu byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i gwblhau eu cynlluniau tymor canolig integredig.
- Gofynion cyflwyno cynllun blynyddol clwstwr: Cyflwynir templed o gynllun a deunyddiau ategol, a ddatblygwyd ar y cyd gan SPPC ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda mewnbwn gan Gyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol a Chymunedol a Llywodraeth Cymru ar wahân:
- Gofynion cynllunio Grŵp cynllunio ar draws y clwstwr: Bydd Blwyddyn Pontio i ddiweddaru’r trefniadau ymgysylltu a chynllunio ac i atgyfnerthu asesiadau anghenion a threfniadau cynllunio presennol ac i atgyfnerthu asesiadau anghenion a chynlluniau tymor canolig integredig presennol.
- 2022-23 Ni chyhoeddwyd unrhyw ganllawiau
- 2023-24 i’w gadarnhau
- Model Gofal Sylfaenol Cymru Gweinidogol / cerrig milltir / blaenoriaethau trawsnewidiol: Gallai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno blaenoriaethau mewn llythyr ar ffurf Model Gofal Sylfaenol Cymru/ cerrig milltir trawsnewidiol; neu flaenoriaethau ehangach, gyda’r disgwyliad y bydd cynlluniau’r clwstwr (a’r bwrdd iechyd) yn adlewyrchu’r rhain:
Adnoddau hyfforddiant a dysgu cenedlaethol
Cyfleoedd i ddatblygu gallu cynllunio mewnol a gellir ceisio gallu. Mae adnoddau cenedlaethol yn cynnwys y canlynol:
- Rhaglen Dysgu ym maes Cynllunio NWSSP (PP4L): Sefydlwyd academi gynllunio i atgyfnerthu sgiliau cynllunio, gyda chyswllt da rhwng cymuned gynllunio GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n cwmpasu Diploma mewn Cynllunio Gofal Iechyd (yma), gweithdai, dosbarthiadau meistr, a digwyddiadau dysgu.
- Cynllunio a hyrwyddo adnoddau dysgu (a gynhelir gan SCW): Gwybodaeth am gynllunio, comisiynu a chynhyrchu ar y cyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; pecyn offer i gefnogi Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyfer llunio Cynlluniau Ardal.
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC): Adnoddau i integreiddio a chynyddu arbenigedd a gallu wrth gynllunio, datblygu, siapio a chefnogi’r gweithlu iechyd.
- Academi Wales: Cyfres o adnoddau dysgu, cyrsiau a digwyddiadau a rhwydweithiau ar gyfer arweinwyr a rheolwyr.
- Conffederasiwn GIG Cymru: Pynciau (e.e. cyllid, iechyd y boblogaeth, ac yn y blaen), rhwydweithiau, cefnogaeth arweinyddiaeth, cyhoeddiadau, digwyddiadau a newyddion.
- Datblygu a chynllunio gwasanaeth iechyd (rhan o’r Public Health Textbook): Mae HealthKnowledge yn ‘siop un stop’ a fydd yn darparu’r holl ddeunyddiau dysgu iechyd y cyhoedd i chi, beth bynnag yw eich cymhwysedd presennol.
Cyngor a chymorth lleol ar gynllunio
Gallai cyngor a chymorth fod ar gael i glystyrau gan eich tîm gofal sylfaenol lleol, gan gynnwys drwy swyddogion cymorth datblygu clwstwr.
Cyngor a chymorth lleol ar iechyd y cyhoedd
Gall cyngor iechyd y cyhoedd fod yn eang a bydd fel arfer yn eirioli i ganolbwyntio’r ffocws ar wella canlyniadau iechyd y boblogaeth, blaenoriaethu gwaith atal/ canfod yn gynnar niweidiau y gellir eu hosgoi, a lleihau anghydraddoldebau o ran mynediad a chanlyniadau iechyd. Gallai cyngor a chymorth fod ar gael i glystyrau gan eich tîm iechyd y cyhoed lleol: