Diffiniwyd ymyleiddio fel safle unigolion, grwpiau neu boblogaethau y tu allan i ‘gymdeithas prif ffrwd’ (Schiffer a Schatz; ENSIH 2008). (Saesneg yn unig). Mae’r grwpiau hyn yn profi anghydraddoldebau iechyd difrifol, a all arwain at statws iechyd llai ffafriol, lefelau uwch o forbidrwydd cyn pryd a risg uwch o ddigwyddiadau diogelwch i gleifion o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol (Aldridge et al.; Lancet 2017). (Saesneg yn unig). Mae canlyniadau gofal iechyd gwael yn cael eu llywio gan:
Bu i Cheraghi-Sohi et al. (Int J Equity Health; 2020) (Saesneg yn unig) gynnal adolygiad cwmpasu naratif i nodi’r materion diogelwch cleifion penodol sy’n effeithio ar y grwpiau hyn. Mae plot swigen (Saesneg yn unig) yn crynhoi’r canfyddiadau, sy’n disgrifio’r ystod o faterion diogelwch cleifion nad oes ymchwil digonol ar gael arnynt, gan gynnwys y rhai â phroblemau iechyd meddwl, namau cyfathrebu a gwybyddol.
Er mwyn sicrhau cydraddoldeb iechyd, mae’n rhaid i wasanaethau gydnabod ffactorau risg ac ymyleiddio a chymryd camau i liniaru’r risgiau i’r unigolion a’r grwpiau hynny. Dylai gwasanaethau sicrhau bod anghenion yn cael eu nodi a bod mesurau lliniaru ar waith. Gallai’r camau gweithredu hyn arwain at welliannau sylweddol yn ansawdd gwasanaethau a chanlyniadau cleifion.