Neidio i'r prif gynnwy

Y sbectrwm o ffactorau risg

Mae gan gydweithfeydd proffesiynol rôl hollbwysig yn ystyried anghenion y boblogaeth a wasanaethant a nodi’r rhai nad ydynt o bosibl yn mynychu neu’n cael y budd llawn o wasanaethau ar hyn o bryd.

Mae’n rhaid i fyrddau iechyd roi ‘sylw dyledus’ i’r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddwch ac erledigaeth, yn ogystal â hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a’r rhai nad ydynt yn eu rhannu.  Y nodweddion gwarchodedig sy’n cael eu cwmpasu gan y ddyletswydd cydraddoldeb yw:

  • Oedran
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu gred
  • Rhyw a chyfeiriadedd rhywiol

Er nad oes unrhyw gategori a dderbynnir yn gyffredinol o fod yn agored i niwed, cydnabyddir:

‘Mae poblogaethau agored i niwed yn grwpiau a chymunedau sy’n wynebu risg uwch o iechyd gwael o ganlyniad i’r rhwystrau maent yn eu hwynebu at adnoddau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol ac amgylcheddol, yn ogystal â chyfyngiadau oherwydd salwch neu anabledd’ (NCCDH; 2022) (Saesneg yn unig) 

Dylai gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fod yn ddigon hyblyg i gyflawni pob angen unigol.  Fodd bynnag, mewn llawer o wasanaethau craidd galw uchel mae’n heriol cyflawni hyblygrwydd o’r fath ac mae mynediad atynt yn aml yn cael ei hwyluso gan deuluoedd, ffrindiau a gofalwyr.  Mae anawsterau’n codi pan nad oes gan unigolyn eiriolwr i ddarparu cefnogaeth.  Pan fydd gwasanaethau wedi adnabod ac ymateb i angen, ni ddylai bod angen eiriolaeth o’r fath, ond mae’n anghyffredin canfod bod addasiadau o’r fath ar gael i bawb.  Gall profiadau blaenorol cyfranogwyr ac aelodau eu rhwydweithiau cymdeithasol o ymgysylltu â’r system gofal iechyd a darparwyr yn y gymuned ddylanwadu’n fawr ar ymddygiad a disgwyliadau dilynol.

Mae’n bwysig sicrhau nad yw cwmpas ‘ffactorau risg’ yn cael ei ehangu’n ormodol, oherwydd bydd yn colli ei werth fel cysyniad ar gyfer cynllunio gwasanaethau.  Gallai cydweithredwyr ddefnyddio’r rhestr ganlynol a gymerwyd gan wasanaethau lleol i hwyluso mynediad at wasanaethau i unigolion sy’n wynebu’r heriau canlynol:

  • Dementia
  • Trais domestig a dioddefwyr ymosodiadau rhywiol
  • Cymunedau lleiafrifoedd ethnig
  • Cymunedau Sipsiwn, Roma neu Deithwyr
  • Digartrefedd
  • Anableddau dysgu
  • Iechyd meddwl
  • Pobl sy’n ceisio lloches: Ffoaduriaid, ceiswyr lloches ac ymfudwyr
  • Iechyd mewn carchardai ac iechyd cyn-droseddwyr
  • O dan anfantais synhwyraidd a chorfforol
  • Gweithwyr rhyw
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Cyn-filwyr
  • Darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg i grwpiau agored i niwed (gweler Atodiad A)