Dylai cydweithredwyr gytuno ar gamau gwella i’w gweithredu yn eu gwasanaethau ac mewn cydweithrediad â phartneriaid priodol. Bydd y camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth o angen heb ei ddiwallu (fel uchod) a thystiolaeth ymchwil ar ymyriadau effeithiol (gweler PCCG adran 2c yma). Gallai camau gynnwys:
- Cyflawni gwelliannau lleol yn y gwasanaethau craidd: mae’n galw am drafodaethau cydweithredol rhwng gwasanaethau
- Esbonio anghenion a chynnig datrysiadau / achos busnes lleol: paratoi cynnig i’w ystyried gan grŵp cynllunio'r clwstwr / traws glwstwr
- Eirioli ar gyfer newid mewn rhannau eraill o’r system iechyd a gofal: dadansoddi ac argymhellion i’r clwstwr a grwpiau eraill, fel y bo’n briodol