Neidio i'r prif gynnwy

Atodiad A: Gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg i grwpiau agored i niwed

Argaeledd gwasanaethau Cymraeg er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau

Mae’r gwasanaethau gofal sylfaenol yn ceisio cyflawni anghenion unigolion gyda dulliau gweithredu cyfannol ac wedi’u personoli.  Mae gallu clinigwyr i ddeall ac egluro hanes claf, i gydymdeimlo a thrafod profion diagnostig a chanlyniadau yn ffactorau hollbwysig ar gyfer cyflawni’r canlyniadau gorau a boddhad y cleifion.

Gall rhwystrau ieithyddol arwain at gam-gyfathrebu a allai effeithio ar ddealltwriaeth claf o’u cyflwr neu driniaeth a gallai leihau eu hymgysylltiad gydag ymyriadau therapiwtig.  Mae cyfathrebu effeithiol yn arbennig o bwysig i unigolion agored i niwed ac ymylol a phan fydd natur sensitif trafodaethau yn galw am hyder i feithrin perthynas therapiwtig.

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg yn rhoi dyletswyddau penodol ar sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn derbyn triniaeth gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.  Dylai clinigwyr hefyd ystyried goblygiadau iaith ar gyfer ansawdd y gofal a ddarperir a gweithio i sicrhau bod mynediad at ofal yn yr iaith Gymraeg yn cael ei ystyried yn y cyd-destun hwn.

Asesiad o anghenion clwstwr

Dylai cydweithfeydd proffesiynol adlewyrchu ar yr angen lleol am wasanaethau yn yr iaith Gymraeg ac yn benodol yr effaith ar grwpiau lleol agored i niwed, y gallai ansawdd eu gofal gael ei effeithio pe na fyddai gofal ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.  Dylai cydweithredwyr fod yn ymwybodol o argaeledd y Pecyn Offer Iaith Gymraeg ‘Urddas mewn Gofal’ y gellir ei ddefnyddio i strwythuro’r dadansoddiad lleol.

Dylai’r Cydweithfeydd rannu eu dadansoddiad proffesiynol o anghenion iaith Gymraeg ar gyfer yr asesiad o anghenion lleol.

Cyfeiriadau

Mold F, Fitzpatrick J a Roberts J (2005) Minority ethnic elders in care homes: a review of the literature. Age and Ageing 34 107-113:  (Saesneg yn unig) 

  • Adolygiad o astudiaethau o’r UD, y DU, Taiwan, Tsieina, Canada ac Awstralia ar bobl hŷn lleiafrifoedd ethnig mewn cartrefi gofal
  • Roedd hyn yn nodi’r angen am fwy o ymwybyddiaeth ddiwylliannol mewn cartrefi gofal, gan gynnwys gwelliannau i ddulliau cyfathrebu, er mwyn gwella gofal unigol.
  • Roedd ymchwil pellach gan Heikkila ac Ekman (2000) a Heikkila et al (2007) yn archwilio profiadau mewnfudwyr hŷn o’r Ffindir mewn cartrefi gofal yn Sweden a nodwyd arwyddocâd cysondeb iaith a diwylliant er mwyn gwella cyfathrebu a dealltwriaeth a arweiniodd at deimladau o gyd-gefnogaeth, perthyn a hunaniaeth a rennir.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg Canllawiau 6 (iv); 1996 a ddyfynnwyd yn Urddas mewn gofal:

  • ‘… mewn amgylchiadau lle mae straen, ffactorau risg, salwch neu anabledd yn ffactorau allweddol, gallai peidio gallu cyfathrebu yn eu mamiaith roi’r rhai dan sylw o dan anfantais bersonol.  O ystyried natur sensitif llawer o’r trafodaethau hyn, mae’n bwysig cynnig dewis iaith lle bynnag y bo’n bosibl.’