Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae'r pwnc hwn yn bwysig?

Mae gan bob pwnc iechyd bwysigrwydd i rywun, rhyw bryd.  Fodd bynnag, ni fydd pob pwnc sy’n berthnasol i unigolion yn cael eu hystyried o safbwynt pwysigrwydd i iechyd y boblogaeth.  Mae anghenion un (neu ychydig) yn wahanol i anghenion y llawer.  Mae’r broses o gynllunio gofal da i unigolion yn haws drwy gyfeirio at safon - felly pa safon y gallem ei defnyddio wrth benderfynu ar berthnasedd wrth gynllunio gofal poblogaethau?  Gall y “sgrin” pedwar pwynt canlynol helpu i benderfynu a yw pwnc penodol yn bwysig i iechyd poblogaeth:

  • A yw’n broblem gyffredin (mynychder uchel)?
  • A oes unrhyw ganlyniadau i’r broblem? Mae’n bosibl y bydd y rhain yn cael eu mesur yn ôl morbidrwydd neu nifer y marwolaethau - neu gyfuniad o’r ddau drwy flynyddoedd bywyd a addaswyd yn ôl anabledd (DALY) a gallai’r rhain gael eu profi gan yr unigolyn, eu teulu, y gymuned leol, y sector iechyd a gofal cymdeithasol neu gan gymdeithas yn fwy cyffredinol.
  • A oes gan y broblem gostau arwyddocaol? Mesurir y rhain mewn termau ariannol ac yn yr un modd, gallai’r rhain gael eu profi gan yr unigolyn, eu teulu, y gymuned leol, y sector iechyd a gofal cymdeithasol neu gan gymdeithas yn fwy cyffredinol.
  • A oes cyfleoedd i atal neu gynnal ymyrraeth gynnar?  Gallai hyn fod yn arbennig o wir os oes cyfleoedd i glystyrau gynhyrchu ymyriadau ar y cyd gyda’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Gall cyfathrebu’r cyd-destun strategol / iechyd y cyhoedd drwy adlewyrchu ar y cwestiynau hyn a’u hateb helpu i sicrhau bod asesiad o anghenion y clwstwr wedi ychwanegu eglurder ynghylch y rhesymeg dros gynllunio camau gweithredu gwella iechyd ar gyfer pynciau sy’n debygol o gael effeithiau ar lefel y boblogaeth.