Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r goblygiadau ar gyfer ailgynllunio gwasanaeth?

Atebwch y cwestiwn “Wel, beth am hynny?” drwy driongli’r wybodaeth rydych wedi’i chasglu wrth ateb y cwestiynau blaenorol i gyfosod crynodeb o’r sefyllfa bresennol a rhagdybio goblygiadau ar gyfer sut y gellir cyflunio gwasanaethau yn y dyfodol.

  • Gallai arweinydd geisio cyfosod yn unigol ar ran y clwstwr, neu sefydlu panel cyfeirio (gan gynnwys cynrychiolaeth gymunedol) i adolygu’r dystiolaeth gyda hwy; gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol pan fydd gwaith i’w wneud i sicrhau cefnogaeth rhanddeiliaid/ pan fydd rhywbeth yn gynhennus, felly mae asesiadau a’u datrysiadau yn cael eu rhannu.
  • Wrth i glystyrau geisio cyfosod, dylent chwilio am batrymau o angen mewn cyfeiriadau fertigol a llorweddol.  Hynny yw, a oes materion penodol o fewn pwnc (e.e. mewn cysylltiad â lefelau uchel o angen a lefelau isel o ddarpariaeth gwasanaeth benodol) a/neu faterion penodol ar draws pynciau lluosog (e.e. diffyg mynediad oherwydd diffyg darpariaeth gymunedol integredig)?
  • A oes unrhyw dystiolaeth ymchwil neu werthusiadau gwasanaeth cyhoeddedig perthnasol sy’n disgrifio modelau cyflenwi amgen, y gellir eu haddasu i’r cyd-destun lleol?
  • Cynnig opsiynau’r clwstwr ar gyfer mynd i’r afael â materion sy’n dod i’r amlwg (a allai olygu gwella pethau sy’n mynd yn dda, yn ogystal â lliniaru’r rhai nad ydynt yn llwyddo i’r un graddau).