Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau ymwybyddiaeth o ganllawiau/ safonau ansawdd NICE a'u rhoi ar waith

  • Mae Cardiovascular disease: identifying and supporting people most at risk of dying early (PH15) (Saesneg yn unig) yn cwmpasu'r risg o farw'n gynnar o glefyd y galon a salwch eraill sy'n gysylltiedig ag ysmygu; ei nod yw lleihau nifer y bobl ddifreintiedig sy'n marw cyn eu hamser drwy sicrhau bod gan bobl fynediad gwell at driniaeth a chymorth hyblyg sydd wedi'i gydlynu'n dda.
  • Mae Cardiovascular disease prevention (PH25) (Saesneg yn unig) yn cwmpasu’r prif ffactorau risg sy'n gysylltiedig â chlefyd cardiofasgwlaidd: deiet gwael, anweithgarwch corfforol, ysmygu ac yfed gormod o alcohol; ei nod yw lleihau nifer uchel yr achosion o glefyd cardiofasgwlaidd.
  • Mae Cardiovascular disease: risk assessment and reduction, including lipid modification (CG181) (Saesneg yn unig) yn trafod asesu a gofalu am oedolion sydd mewn perygl o gael neu sydd â chlefyd cardiofasgwlaidd (CVD), megis clefyd y galon a strôc. Ei nod yw helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i adnabod pobl sydd mewn perygl o gael problemau cardiofasgwlaidd gan gynnwys pobl â diabetes math 1 neu fath 2, neu glefyd cronig yr arennau; mae'n disgrifio'r newidiadau i ffordd o fyw y gall pobl eu gwneud a sut y gellir defnyddio statinau i leihau eu risg.
  • Mae Cardiovascular risk assessment and lipid modification (QS100) (Saesneg yn unig) yn trafod nodi ac asesu risg cardiofasgwlaidd mewn oedolion (18 oed neu hŷn) a thriniaeth i atal clefyd cardiofasgwlaidd; mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd i'w gwella sydd â blaenoriaeth.
  • Mae Atrial fibrillation: diagnosis and management (NG196) (Saesneg yn unig) yn ymdrin â diagnosio a rheoli ffibriliad atriaidd mewn oedolion; mae'n cynnwys canllawiau ar ddarparu'r gofal a'r driniaeth orau i bobl sydd â ffibriliad atriaidd, gan gynnwys asesu a rheoli risgiau strôc a gwaedu.
  • Mae Atrial fibrillation (QS93) (Saesneg yn unig) yn trafod adnabod a rheoli ffibriliad atriaidd (gan gynnwys ffibriliad atrïaidd achlysurol, parhaus a pharhaol, a chryndod atrïaidd) mewn oedolion (18 oed a throsodd); mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd i'w gwella sydd â blaenoriaeth.
  • Mae Stroke and transient ischaemic attack in over 16s: diagnosis and initial management (NG128) (Saesneg yn unig) yn trafod ymyriadau yng nghyfnod acíwt strôc neu byliau o isgemia dros dro (TIA); mae'n cynnig y cyngor clinigol gorau ar ddiagnosis a rheolaeth acíwt ar gyfer strôc a TIA yn y 48 awr ar ôl dechrau'r symptomau.
  • Mae Stroke in adults (QS2) (Saesneg yn unig) yn trafod diagnosis a’r rheolaeth o strôc mewn oedolion (dros 16 oed); mae'n cynnwys diagnosis, rheolaeth gychwynnol, gofal cyfnod acíwt, adsefydlu a chymorth hirdymor i bobl â strôc ac mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd i'w gwella sydd â blaenoriaeth.