Neidio i'r prif gynnwy

Ystyriwch y goblygiadau i gynllunio gwasanaethau yn sgil demograffeg y dyfodol

  • Nid yw amcanestyniadau poblogaeth ar gael yn seiliedig ar gofrestriadau gyda meddyg teulu.
  • Ceisiwch ragweld y galw am wasanaethau iechyd a gofal lleol yn y dyfodol drwy wneud rhagdybiaethau yn seiliedig ar broffil y boblogaeth  breswyl.
  • Mae'r galw am ofal iechyd yn amrywio dros amser ac yn ogystal ag adlewyrchu nodweddion cyffredinol y boblogaeth, gall hefyd adlewyrchu newidiadau mewn cyffredinrwydd cyflwr neu ganlyniadau rheoli'r cyflwr hwnnw. Defnyddir amcanestyniadau poblogaeth yn eang mewn perthynas â phenderfynyddion iechyd, megis tai, trafnidiaeth ac addysg.
  • Mae amcanestyniadau poblogaeth yn defnyddio'r Cyfrifiad fel llinell sylfaen ac yn caniatáu ar gyfer marwolaethau, ffrwythlondeb a mudo er mwyn rhagweld demograffeg y dyfodol. Yr hiraf yw tymor yr amcanestyniad, y lleiaf dibynadwy y mae'n debygol o fod.
  • Mae'r King's Fund yn nodi nifer o dueddiadau ar gyfer y dyfodol ym mhoblogaeth Lloegr (dolen) a all fod yn berthnasol yn lleol: mae'r boblogaeth yn tyfu; mae'r boblogaeth yn dod yn fwy amrywiol; mae mwy o bobl yn byw ar eu pen eu hunain; ar ôl twf diweddar, disgwylir i nifer y genedigaethau sefydlogi bob blwyddyn; mae disgwyliad oes a disgwyliad oes iach yn cynyddu; mae'r boblogaeth yn heneiddio; ar ôl gostyngiad diweddar, disgwylir i nifer y marwolaethau bob blwyddyn gynyddu; ac mae anghydraddoldebau iechyd yn parhau. 
  • Nod Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol Cymru (Llywodraeth Cymru; dolen) yw cynorthwyo'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yng Nghymru i roi mwy o ystyriaeth i'r hirdymor; mae adroddiad 2021 yn canolbwyntio ar bobl a'r boblogaeth, ac ar anghydraddoldebau. Mae'n nodi arafu o ran twf y boblogaeth; poblogaeth sy'n heneiddio; galw ac angen cynyddol am dai; newid mewn patrymau mudo; newid mewn proffiliau ac anghenion iechyd; a thwf parhaus y Gymraeg.