Neidio i'r prif gynnwy

Poblogaeth

Beth sydd ar y dudalen hon?

Rydych yn edrych ar dudalen pwnc sy'n rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP). Mae pob tudalen pwnc yn cynnwys a) cyd-destun strategol sy’n benodol i’r pwnc; (b) cyfeiriad at ddadansoddiadau o ddata sy’n ymwneud ag anghenion iechyd lleol; a (c) camau gweithredu ar gyfer gwella.

A. Cyd-destun strategol

Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol). Mae atgoffa ein hunain o bwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol i feddwl am sut mae ein camau gweithredu yn cyd-fynd â rhai pobl eraill er mwyn cael effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.

  • Mae demograffeg yn disgrifio cyfansoddiad poblogaeth yn nhermau nodweddion megis oedran, rhyw ac ethnigrwydd. Gall hefyd edrych ar nodweddion fel cyfradd marwolaethau yn sgil pob achos, cyfradd ffrwythlondeb, amddifadedd cymharol yn ôl daearyddiaeth ardal fach (gweler POP-003) a mesurau trosfwaol o (ac anghydraddoldebau) statws iechyd y boblogaeth, megis disgwyliad oes (gweler POP-002).
  • Mae maint y boblogaeth a bandiau oedran yn ddylanwadau mawr ar y galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, felly dylai'r broses o gynllunio gwasanaethau lleol adlewyrchu nodweddion poblogaeth leol (yn ogystal ag anghenion gofal). Mae gwaith segmentu'r boblogaeth a haenu risgiau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn dangos bod amlafiachedd yn fwy perthnasol nag oedran fel prif sbardun ar gyfer cost.
  • Mae amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar breswylfeydd yn amrywio o'r rhai sy'n seiliedig ar gofrestriad gyda meddyg teulu am amryw o resymau (dolen); mae dadansoddiad a gynhaliwyd yn Lloegr yn dangos bod gormod o gofrestriadau gyda meddygon teulu o gymharu ag amcanestyniad o'r boblogaeth breswyl ar gyfer pobl o oedran gweithio (dolen). At hynny, nid yw clystyrau yng Nghymru yn unedau daearyddol, ac mae hynny'n groes i'r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (LSOAs) y mae amcangyfrifon poblogaeth breswyl yn seiliedig arnynt—felly ni fyddant byth yn cydgordio'n llwyr.

B. Dadansoddiadau o ddata

Mae asesu anghenion yn cynnwys chwilio am dystiolaeth yn ymwneud ag anghenion y boblogaeth ac arfarnu'r dystiolaeth honno; mae hyn yn cynnwys adolygiad o wybodaeth ystadegol. Defnyddiwch y dadansoddiadau hyn i gymharu eich sefyllfa chi â chlystyrau eraill, o fewn eich bwrdd iechyd a'r tu allan iddo (lle bo modd). Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai gyfrannu at benderfyniad gwybodus ar gamau gweithredu.

  • Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
  • Ffynhonnell y data a dolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad mwyaf cyfredol yn defnyddio'r data diweddaraf).
  • Dolen i ddogfennau: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, etc.
  • Math o boblogaeth: O ran poblogaeth gofrestredig, fel arfer bydd angen echdynnu data o systemau clinigol meddygon teulu, wedi’u cydgrynhoi o lefel practis. Yn nodweddiadol, daw data ar boblogaethau preswyl fel arfer o ffynhonnell anghlinigol, y gellir ei chydgrynhoi i unedau daearyddol mwy. Llwyd = ddim ar gael.
  • Ôl Troed: Gall data ar olion traed llai fod yn fwy disgrifiadol o statws lleol, ond yn llai sicr oherwydd bod y niferoedd yn llai. Er eu bod yn fwy cadarn ar y cyfan, gall data ar olion traed mwy guddio amrywiadau lleol pwysig. Llwyd = ddim ar gael.

Dangosydd:

Poblogaeth ragamcanol yn ôl grŵp oedran pum mlynedd a rhyw, (Blwyddyn)                      

Ffynhonnell y data a dolen:

Amcangyfrifon poblogaeth (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Dolen i ddogfennau:

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y ffynhonnell ddata hon yma.

Math o boblogaeth:

Cofrestredig

Preswyl

Ôl Troed:

BILl

ALl

Clwstwr

LSOA

 

Dangosydd:

Poblogaeth ragamcanol yn ôl daearyddiaeth, carfan/thema, pwnc a chategori, (Blwyddyn)

Ffynhonnell y data a dolen:

Rhagamcanion (Llwyfan Amcanestyniadau Poblogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru)

Dolen i ddogfennau:

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y ffynhonnell ddata hon yn y ddolen ffynhonnell data.

Math o boblogaeth:

Cofrestredig

Preswyl

Ôl Troed:

BILl

ALl

Clwstwr

LSOA


C. Camau gweithredu ar gyfer gwella

Mae asesu anghenion yn cynnwys cael gafael ar dystiolaeth am ymyriadau effeithiol a chost-effeithiol ac arfarnu'r dystiolaeth honno. Ystyriwch pa rai o'r camau gweithredu canlynol y gellir eu cymryd. Gall clystyrau llai aeddfed droi o amgylch meddygon teulu ac maent yn dueddol o ganolbwyntio ar gamau gweithredu clinigol yn bennaf; bydd clystyrau aeddfed sydd â lefelau uchel o ymgysylltiad ehangach â rhanddeiliaid yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y gall rhanddeiliaid eraill ei wneud o ran ysgogi gwelliannau i wasanaethau cymunedol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac wedi’u cyfoethogi’n lleol.

Adolygwyd gan: Bruce McKenzie | Dyddiad adolygu: 13/12/21 | Cod tudalen: POP-001