Ystyriwch y goblygiadau i gynllunio gwasanaethau yn sgil demograffeg gyfredol
Mynediad cyfyngedig iawn sydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru at ddata gofal sylfaenol, felly ni all ddarparu dadansoddiad demograffig cynhwysfawr o’r boblogaeth gofrestredig fesul clwstwr. Cyfunwch restrau o bractisau meddygon teulu er mwyn cael darlun cyfun o oedran a rhyw proffil poblogaeth gofrestredig y clwstwr.
Ceisiwch ragweld y galw presennol am wasanaethau iechyd a gofal lleol drwy wneud rhagdybiaethau yn seiliedig ar broffil y boblogaeth breswyl.
Mae cyfrif o gyfanswm y boblogaeth yn darparu enwadur y gellir ei ddefnyddio gyda chyfraddau digwydded disgwyliedig neu gyfrannau cyffredinrwydd (e.e. os yw cyffredinrwydd asthma yn 12% ym mhoblogaeth Cymru, lluoswch hynny â maint rhestr y clwstwr i amcangyfrif cyfanswm y bobl ag asthma arnynt y disgwylir iddynt fod angen gofal arnynt yn lleol; cymharwch y rhif hwn â chyfrif mesuredig y personau sydd â diagnosis o asthma wedi'i godio).
Gellir defnyddio bandiau oedran poblogaeth i amcangyfrif amlder disgwyliedig anghenion iechyd a llesiant ar draws cwrs bywyd. Er enghraifft, gall y pwyslais lleol amrywio rhwng materion iechyd ymhlith plant (gan gynnwys beichiogrwydd) e.e. dod i gysylltiad â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE); pobl ifanc e.e. hunan-niweidio; pobl o oedran gweithio e.e. straen/gorbryder; ac ymhlith pobl hŷn e.e. eiddilwch.
Gall cyfrif y boblogaeth yn ôl rhyw helpu i bennu maint y boblogaeth darged ar gyfer cynllunio ymyriad rhyw-benodol e.e. hyrwyddo sgrinio'r fron (yn enwedig mewn cyfuniad â band oedran). Mae rhyw hefyd yn helpu i ragweld y risg o rai digwyddiadau iechyd, fel hunanladdiadau.
Gall cyfrif y boblogaeth yn ôl ethnigrwydd helpu i amcangyfrif dylanwadau ar gyffredinrwydd rhai cyflyrau iechyd yn y clwstwr cyffredinol (e.e. A yw diabetes ar y lefel a ddisgwylir - ac os nad yw, pam?), mesur gofynion ieithyddol posibl ac ystyriaethau eraill ar gyfer sicrhau mynediad diwylliannol-briodol at wybodaeth iechyd, ac maent yn sail ar gyfer archwilio anghydraddoldebau posibl o ran mynediad at ofal iechyd neu ganlyniadau gofal iechyd.
Gall mesur gwledigrwydd helpu i nodi carfan o’r boblogaeth sy’n profi heriau iechyd penodol, megis mynediad at wasanaethau ysbyty.