Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau ymwybyddiaeth o ganllawiau/ safonau ansawdd NICE a'u rhoi ar waith

  • Mae Cardiovascular disease: identifying and supporting people most at risk of dying early (PH15) (Saesneg yn unig)  yn cwmpasu'r risg o farw'n gynnar o glefyd y galon a salwch eraill sy'n gysylltiedig ag ysmygu; ei nod yw lleihau nifer y bobl ddifreintiedig sy'n marw cyn eu hamser drwy sicrhau bod gan bobl fynediad gwell at driniaeth a chymorth hyblyg sydd wedi'i gydlynu'n dda.
  • Mae Cardiovascular disease prevention (PH25) (Saesneg yn unig) yn cwmpasu'r prif ffactorau risg sy'n gysylltiedig â chlefyd cardiofasgwlaidd: deiet gwael, anweithgarwch corfforol, ysmygu ac yfed gormod o alcohol; ei nod yw lleihau nifer uchel yr achosion o glefyd cardiofasgwlaidd.
  • Mae Cardiovascular disease: risk assessment and reduction, including lipid modification (CG181)  (Saesneg yn unig) yn cwmpasu asesu a gofalu am oedolion sydd mewn perygl o gael neu sydd â chlefyd cardiofasgwlaidd (CVD), megis clefyd y galon a strôc. Ei nod yw helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i adnabod pobl sydd mewn perygl o gael problemau cardiofasgwlaidd gan gynnwys pobl â diabetes math 1 neu fath 2, neu glefyd cronig yr arennau; mae'n disgrifio'r newidiadau i ffordd o fyw y gall pobl eu gwneud a sut y gellir defnyddio statinau i leihau eu risg.
  • Mae Cardiovascular risk assessment and lipid modification (QS100)  (Saesneg yn unig) yn cwmpasu nodi ac asesu risg cardiofasgwlaidd mewn oedolion (18 oed neu hŷn) a thriniaeth i atal clefyd cardiofasgwlaidd; mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella.
  • Mae Chronic heart failure in adults: diagnosis and management (NG106)  (Saesneg yn unig) yn cwmpasu gwneud diagnosis a rheoli methiant cronig y galon ymhlith pobl 18 oed neu hŷn; ei nod yw gwella diagnosis a thriniaeth i gynyddu hyd ac ansawdd bywyd pobl â methiant y galon.
  • Mae Chronic heart failure in adults (QS9) (Saesneg yn unig) yn cwmpasu asesu, gwneud diagnosis a rheoli methiant cronig y galon mewn oedolion (18 oed  oed neu hŷn); mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella.