NICE Public Health Guidance 55: (Saesneg yn unig) Iechyd y Geg: Mae awdurdodau lleol a phartneriaid yn argymell y dylai:
1) manylebau’r gwasanaeth gynnwys gofyniad i staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen dderbyn hyfforddiant mewn hybu iechyd y geg.
2) hyfforddiant ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen gael ei gomisiynu’n rheolaidd.
3) staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen ddeall y cysylltiad rhwng anghydraddoldebau iechyd ac iechyd y geg ac anghenion y grwpiau sydd fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael.
4) staff iechyd a gofal cymdeithasol y rheng flaen allu cynghori gofalwyr ar sut i ddiogelu a gwella iechyd y geg a hylendid y rhai maent yn gofalu amdanynt.
Darparu hyfforddiant mewn iechyd y geg i fyfyrwyr a staff iechyd a gofal cymdeithasol yw prif elfennau y rhaglenni cenedlaethol i wella iechyd y geg sef Cynllun Gwên a Gwên Am Byth (a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol GIG Cymru).