Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd y geg ymysg oedolion

Ar hyn o bryd rydych chi'n edrych ar dudalen pwnc sy'n rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP).  Mae pob tudalen bwnc yn cynnwys (a) cyd-destun strategol pwnc-benodol;  (b) cyfeiriad at ddadansoddiadau data sy'n ymwneud ag anghenion iechyd lleol; ac (c) opsiynau gweithredu ar gyfer gwella.

 

A.  Cyd-destun strategol

Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol).  Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.

  • Mae iechyd y geg yn rhan allweddol o iechyd a llesiant cyffredinol person.
  • Dengys tystiolaeth gan raglen Epidemioleg Deintyddol Cymru fod anghydraddoldebau o ran iechyd y geg yn bodoli ers y blynyddoedd cynnar
  • Gall pydredd dannedd gael effaith gydol oes gan fod iechyd deintyddol gwael yn ystod plentyndod yn arwydd o iechyd deintyddol gwael pan fydd rhywun yn oedolyn.
  • Pobl sy’n byw mewn ardaloedd sy’n cael eu disgrifio fel ardaloedd dan anfantais gymdeithasol ac economaidd yn aml sydd fwyaf mewn perygl o gael iechyd y geg gwael.
  • Mae atal pydredd dannedd, clefyd y deintgig a chanser y geg yn hollbwysig ar gyfer ceg iach (Delivering Better Oral Health) (Saesneg yn unig)
  • Amlinellodd Llywodraeth Cymru gyfeiriad strategol i wella iechyd y geg yn Cymru Iachach: Ymateb y Gwasanaethau Deintyddol ac Iechyd y Geg (Llywodraeth Cymru 2018).
  • Mae angen dulliau amlweddog i wella iechyd y geg y boblogaeth, a strategaeth sy’n dylanwadu ar benderfynyddion iechyd ehangach ac sy’n rhoi sylw i anghydraddoldebau iechyd y geg. Bydd clystyrau yn elwa ar gyngor arbenigol ar iechyd deintyddol y cyhoedd wrth iddynt lunio cynlluniau i wella iechyd y geg ymysg y boblogaeth leol.

B.  Dadansoddiadau data

Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogath er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i'ch bwrdd iechyd (lle bo'n bosibl).  Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai dyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.

  • Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
  • Ffynhonnell y data a'r ddolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad diweddaraf yn defnyddio'r data mwyaf diweddar).
  • Dolen dogfennaeth: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/ heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, ac ati.

Dangosydd:

Nifer yr achosion o ddannedd wedi pydru, ar goll neu wedi'u llenwi (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

Rhaglen Epidemioleg Ddeintyddol yng Nghymru

Dolen i'r ddogfennaeth:

Mae'r ffynhonnell ddata hon yn cynnwys adroddiadau sy'n rhoi cyd-destun

 

C.  Camau gwella

Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd.

 

Adolygwyd gan: MW | Dyddiad adolygu: 15/06/24 | Cod y pwnc: DEN-002