NICE Public Health Guidance 55: (Saesneg yn unig) Iechyd y Geg: Mae awdurdodau lleol a phartneriaid yn argymell y dylid:
1) Gweithio gyda gwasanaethau iechyd galwedigaethol ac adnoddau dynol i hybu ac i amddiffyn iechyd y geg gan ddefnyddio Delivering Better Oral Health. (Saesneg yn unig) Dylai hyn fod yn rhan o’r ymdrech i wella iechyd a llesiant cyffredinol yn y gwaith a dylid ei deilwra i gyd-fynd ag anghenion lleol.
2) Ystyried ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o’r wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael am iechyd y geg sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’r ffyrdd o wella mynediad at wasanaethau deintyddol.
3) Ystyried rhoi amser o’r gwaith i bobl gael mynd at y deintydd heb golli cyflog.
4) Sicrhau bod gwybodaeth ar gael i staff am wasanaethau deintyddol lleol ac am ganllawiau iechyd y geg cenedlaethol.
5) Sicrhau bod y gweithle yn hybu iechyd y geg
Nod y rhaglen Cymru Iach ar Waith yw cefnogi ac annog cyflogwyr i greu amgylchedd gweithio iach, ac i gymryd camau gweithredu i wella iechyd a llesiant y staff.