1) Yn unol â Rhaglen Ddiwygio y Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol (GDC), mae cefnogi’r gwaith o gomisiynu’n lleol yn gwella mynediad a mynediad teg mewn ardaloedd o amddifadedd. Gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r gwasanaethau deintyddol i wella mynediad teg at ofal deintyddol.
2) Cefnogi gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol i feddu ar ethos sy’n canolbwyntio ar atal a chanlyniadau.
3) Darparu gwybodaeth gyhoeddus hygyrch am gael mynediad i ofal deintyddol brys yn lleol (drwy 111 neu’r llinell gymorth leol).
4) Annog a hwyluso’r broses o fynychu apwyntiadau rheolaidd ar ôl derbyn gofal brys; mae canllawiau NICE Oral health promotion in the community (QS139) (Saesneg yn unig) yn argymell y dylai’r gwasanaethau deintyddol sy’n darparu gofal brys i bobl heb dîm deintyddol rheolaidd roi gwybodaeth am fuddiannau mynychu apwyntiadau gofal arferol a sut i ddod o hyd i bractis deintyddol lleol.