Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau ymwybyddiaeth o ganllawiau/safonau ansawdd NICE a'u bod yn cael eu rhoi ar waith

  • Mae Cardiovascular disease: risk assessment and reduction, including lipid modification (CG181) (Saesneg yn unig) yn ymdrin ag asesu a gofalu am oedolion sy'n wynebu risg o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd, megis clefyd y galon a strôc, neu sydd â chlefyd cardiofasgwlaidd; nod y canllawiau hyn yw helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i adnabod pobl sy'n wynebu risg o gael problemau cardiofasgwlaidd gan gynnwys pobl â diabetes math 1 neu fath 2, neu glefyd cronig yr arennau.
  • Mae Cardiovascular risk assessment and lipid modification (QS100) (Saesneg yn unig) yn ymdrin â nodi ac asesu risg gardiofasgwlaidd mewn oedolion (18 oed a throsodd) a thriniaeth i atal clefyd cardiofasgwlaidd; mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd i'w gwella â blaenoriaeth.
  • Mae Familial hypercholesterolaemia: identification and management (CG71) (Saesneg yn unig) yn ymdrin â nodi a rheoli hypercolesterolaemia teuluol, sef math penodol o golesterol uchel sy'n rhedeg yn y teulu, mewn plant, pobl ifanc ac oedolion; nod y canllawiau hyn yw helpu i adnabod pobl sy'n wynebu mwy o risg o ddatblygu clefyd coronaidd y galon am fod ganddynt hepercolesterolaemia teuluol.
  • Mae Familial hypercholesterolaemia (QS41) (Saesneg yn unig) yn ymdrin â nodi a rheoli hypercolesterolaemia teuluol mewn plant, pobl ifanc ac oedolion; mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd i'w gwella â blaenoriaeth.