Neidio i'r prif gynnwy

Colesterol uwch

Ar hyn o bryd rydych chi'n edrych ar dudalen pwnc sy'n rhan o'r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (CPSP). Mae pob tudalen bwnc yn cynnwys (a) cyd-destun strategol pwnc-benodol; (b) cyfeiriad at ddadansoddiadau data sy'n ymwneud ag anghenion iechyd lleol; ac (c) opsiynau gweithredu ar gyfer gwella.

A. Cyd-destun strategol

Ystyriwch y cyd-destun strategol cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethu camau gwella yn y maes hwn (ar y cyd â chynllun blynyddol eich bwrdd iechyd a chynllun ardal y bwrdd partneriaeth rhanbarthol).  Mae pwysigrwydd strategol pwnc penodol yn allweddol wrth feddwl am sut mae ein gweithredoedd yn cyd-fynd â mentrau a pholisïau lleol neu genedlaethol i ddarparu effeithiau cyfunol a mesuradwy ar iechyd y boblogaeth.

  • Yng Nghymru, mae clefydau cardiofasgwlaidd yn un o brif achosion (18%) Blynyddoedd o Fywyd a Addasir oherwydd Anabledd (DALYs) ac, ynghyd â chanser, y clefydau hyn yw prif achosion blynyddoedd o fywyd a gollir (Health and its determinants in Wales; Iechyd Cyhoeddus Cymru 2018) (Saesneg yn unig).
  • Mae tua 82% o'r Blynyddoedd o Fywyd a Addasir oherwydd Anabledd a achosir gan glefyd cardiofasgwlaidd i'w briodoli i ffactorau risg hysbys (Health and its determinants in Wales; Iechyd Cyhoeddus Cymru 2018) (Saesneg yn unig); mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd ymdrechion atal.
  • Mae'r Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal (Hart 1971) yn nodi bod argaeledd gofal meddygol da yn tueddu i amrywio'n wrthgyfartal gyda'r angen amdano yn y boblogaeth a wasanaethir. Nod rhaglen y Ddeddf Gofal Gwrthgyfartal, a sefydlwyd yng nghymoedd De Cymru, yw cynyddu nifer y bobl y nodir bod ganddynt glefyd cardiofasgwlaidd neu eu bod yn wynebu risg o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd ac mae'n eu helpu i wneud newidiadau ymddygiad iach. 
  • Mae gan tua 13,000 o bobl yng Nghymru hypercolesterolaemia teuluol, sy'n gysylltiedig â risg anarferol o uchel o ddatblygu clefyd y galon neu farw cyn pryd; mae un o bob pedair marwolaeth o glefydau cylchrediad yng Nghymru yn gysylltiedig â lipoprotein dim dwysedd uchel (non-HDL) neu golesterol “drwg” (BHF, 2022) (Saesneg yn unig). 
  • Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer cyflyrau ar y galon (Llywodraeth Cymru, 2021) yn disodli'r cynllun darparu ar gyfer cyflyrau ar y galon yng Nghymru ac yn galw am i gyflyrau risg uchel megis colesterol uwch (a phwysedd gwaed uchel a ffibriliad atrïaidd) gael eu canfod, eu diagnosio a'u rheoli'n effeithiol.

B. Dadansoddiadau data

Ystyriwch ddangosyddion ystadegol a thystiolaeth arall am anghenion y boblogaeth er mwyn cymharu eich sefyllfa chi ag eraill, o fewn a thu allan i’ch bwrdd iechyd (lle bo’n bosibl). Os yw'n berthnasol, ystyriwch unrhyw ofynion data lleol ychwanegol a allai gyfrannu at benderfyniad gwybodus ar weithredu.

  • Dangosydd: Disgrifiad o ddangosydd a argymhellir yn ymwneud â'r pwnc hwn, a fyddai'n llywio asesiad o anghenion y boblogaeth.
  • Ffynhonnell y data a'r ddolen: Pwy sy'n cynhyrchu'r dadansoddiad a ble i ddod o hyd i'r dadansoddiad mwyaf cyfredol ar eu gwefan (DS efallai na fydd y dadansoddiad diweddaraf yn defnyddio'r data mwyaf diweddar).
  • Dolen dogfennaeth: Ble i ddod o hyd i gyngor cyffredinol ar ddehongli'r dadansoddiad e.e. beth sydd wedi'i gynnwys/ heb ei gynnwys, unrhyw gafeatau, ac ati.

Dangosydd:

Cleifion â chlefyd coronaidd y galon y mae cyfanswm eu colesterol a fesurwyd ddiwethaf (a fesurwyd yn ystod y 15 mis diwethaf) yn cyfateb i 5mmol/l neu lai (%)

Ffynhonnell y data a'r ddolen:

 

Dolen i’r ddogfennaeth:

 

 

C.  Camau gwella

Mae nodi camau blaenoriaeth yn cynnwys ceisio a gwerthuso tystiolaeth ar opsiynau gwella effeithiol a chost-effeithiol. Mae'r opsiynau isod yn fan cychwyn ar gyfer ystyried ymyriadau ar lefel practis, lefel clwstwr/ cydweithredfa proffesiynol neu draws-glwstwr. Mae cyfansoddiad eich clwstwr a'r rhanddeiliaid rydych chi'n gweithio gyda nhw yn debygol o ddylanwadu ar y math o gamau rydych chi'n eu cymryd. 

Adolygwyd gan: BM | Dyddiad adolygu: 07/09/22 | Cod pwnc: CRF-005