Neidio i'r prif gynnwy

Contract Ymarfer Cyffredinol

Canllawiau atodol ar gyfer contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol Cymru 2020 i 2021

Daeth Contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol  Cymru i rym ar 1af Ebrill 2004. Mae’r ddogfen Investment in General Practice – Impementing the new GMC contract  Y Contract GMC bellach yn cael ei drafod beween GPC Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’n amlinellu manylion dogfen y contract Investing in General Practice (Saesneg yn unig) ac mae’n amlinellu sut mae angen mynd ati i’w rhoi ar waith.
Mae 
Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru (Saesneg yn unig)  yn cynrychioli’r holl feddygon teulu yng Nghymru ac mae ganddo’r ymreolaeth i ymdrin â materion sy’n unigryw i Gymru.

 

Hanfodion Llywio Gofal

Roedd cytundeb y Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMS) ar gyfer 2021–22 yn cynnwys manylion ar gyfer cyflwyno Ymrwymiad Mynediad, i’w gyflwyno o 1 Ebrill 2022. Gweler Rheoli practis cyffredinol | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.  Mae’r Ymrwymiad Mynediad yn mynnu bod llywio gofal yn cael ei wneud ar gyfer yr holl gleifion sy’n ffonio’r practis a phan fydd eu galwadau’n cael eu hateb a, lle bo’n briodol, gall cleifion gael eu cyfeirio i wasanaeth priodol arall.

Mewn cydweithrediad â Rheolwyr Practisiau a staff clinigol, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi arwain ar ddatblygu pecyn e-ddysgu strwythuredig i gefnogi gofynion contract GMS. Mae’r e-Ddysgu yn cynnwys tri modiwl gwybodaeth a damcaniaeth: 

– Hanfodion Llywio Gofal 

– Sgiliau ar gyfer Llywio Gofal 

– Llywio Gofal ar Waith

Gellir gweithio drwy’r e-Ddysgu ar sail unigol; fel arall, gellir ei ddefnyddio fel sail i sesiynau dysgu grŵp/ystafell ddosbarth. Ni ddylai gymryd yn hwy na 2 awr i’w gwblhau.

Mae pedwerydd modiwl wedi’i gynnwys yn y pecyn i annog a hwyluso’r gwaith o gymhwyso dysgu yn y gweithle drwy lyfr gwaith y gellir ei lawrlwytho, a hynny er mwyn arwain defnyddwyr wrth archwilio eu hadnoddau lleol a’u hasedau cymunedol, ac i gynorthwyo â chyfeirio effeithiol. Er nad yw’r llyfr gwaith yn ofyniad i’r e-Ddysgu, fe’i darperir i helpu i wella hyder, sgiliau a pherfformiad llywio gofal.

I gael mynediad at yr e-Ddysgu yn uniongyrchol: Hanfodion Llywio Gofal

I gael mynediad at y ddolen drwy dudalennau Gofal Sylfaenol AaGIC: https://aagic.gig.cymru/rhaglenni/gofal-sylfaenol/hyfforddiant-gofal-sylfaenol/

 

Cefndir 

Cyn 2004, roedd contract yn talu i feddygon teulu ar sail ffioedd a lwfansau (a oedd yn cael eu hadnabod ar lafar fel “y Llyfr Coch”). Mewn gwrthgyferbyniad, dyrannodd y contract newydd adnoddau i Feddygon Teulu drwy dair prif ffrwd: y swm cyffredinol; y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau (QOF); a thaliadau am wasanaethau gwell. Roedd ffrydiau ariannu ar wahân ar gael i bractisau foderneiddio eu hadeiladau a gwella eu seilwaith TG.

Roedd y contract newydd hwn yn newid sylweddol gan gyflwyno contract yn seiliedig ar bractis - yn hytrach nag yn seiliedig ar ymarferydd - a chyfradd fuddsoddi ddigynsail mewn gwasanaethau meddygol cyffredinol i wobrwyo ansawdd gofal. Hysbyswyd Byrddau Iechyd Lleol am eu dyraniadau gofal sylfaenol ym mis Rhagfyr 2003. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru yr arian hwn oherwydd ei bod yn cydnabod bod gofal sylfaenol yn rhan hanfodol o’r rhaglen i foderneiddio’r GIG.

Cyfrifwyd y Swm Cyffredinol gan ddefnyddio fformiwla Carr-Hill yn seiliedig ar nifer o fynegeion o fewn y fformiwla practis. I rai practisau, arweiniodd hyn at leihad sylweddol mewn ffrydiau incwm o gymharu â’r hyn roeddent yn ei gael o dan yr hen gontract. I osgoi ansefydlogrwydd mewn practisau ar y pryd, cyflwynwyd ffactor cywiro i ddod a llinellau sylfaen practisau i’r un lefel o incwm ag yr oeddent yn ei gael o dan gontract y “Llyfr Coch” (y Gwarant Isafswm Incwm Practis). Bwriadwyd lleihau hyn dros amser ar sail cynnydd mewn adnoddau ond, oherwydd yr hinsawdd economaidd, daeth hynny i ben sawl blwyddyn yn ddiweddarach. Mae’r Gwarant Isafswm Incwm Practis yn cael ei ddiddymu dros gyfnod o 7 mlynedd yng Nghymru yn dechrau ar 1af Ebrill 2015 i adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ariannu practisau’n deg.

Gellir rhannu Gwasanaethau Gwell fel a ganlyn:
Gwasanaethau Gwell dan Gyfarwyddyd - mae'n RHAID i’r rhain gael eu comisiynu gan Fyrddau Iechyd a bod ar gael i bractisau (e.e. Gwasanaethau Ychwanegol dan Gyfarwyddyd ym maes Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Ychwanegol dan Gyfarwyddyd ym maes Anableddau Dysgu ayyb)
Gwasanaethau Gwell Cenedlaethol – e.e. gwasanaethau gwell cenedlaethol ym maes gwrthgeulo
Gwasanaethau Gwell Lleol - wedi eu comisiynu gan Fwrdd Iechyd a all benderfynu eu gwneud ar gael i bob practis neu ddim ond rhai penodol.