Neidio i'r prif gynnwy

Gyrfaoedd

Mae 84,000 o bobl yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan GIG Cymru heddiw – sy’n cyfateb i fwy na 72,000 o rolau llawn-amser – twf o draean ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewn gofal sylfaenol mae mwy na 2,000 o feddygon teulu, 1,500 o ddeintyddion ac 800 o optometryddion yn gweithio yng Nghymru. Hefyd mae 2,300 o fferyllwyr cofrestredig a 1,400 o dechnegwyr fferyllfeydd cofrestredig sydd naill ai’n gweithio yn y sector a reolir neu yn y 714 o fferyllfeydd cymunedol sydd wedi’u dosbarthu ledled Cymru. Mae gweithlu’r GIG yn rhoi cyfrif am 62% o refeniw byrddau iechyd, sef bron i £3bn y flwyddyn. Gweithlu gofal sylfaenol wedi'i gynllunio ar gyfer Cymru 2016