Practisau Cyffredinol yn Iechyd Bae Abertawe
Mae Rhwydwaith Iechyd y Bae yn un o bum ardal rhwydwaith cymunedol yn Abertawe.
Ceir saith practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Iechyd Bae Abertawe.
Practis Meddygol Gŵyr
Meddygfa Heol y Brenin, y Mwmbwls
Canolfan MedicPal Sketty a Chilâ
Meddygfeydd Sant Thomas a West Cross
Canolfan Feddygol y Grove
Canolfan Iechyd y Brifysgol
Meddygfa Uplands a’r Mwmbwls
Mae rhwydwaith Iechyd Bae Abertawe yn un o’r pum ardal rhwydwaith cymunedol yn Abertawe sy’n cynnwys ardaloedd Uplands, Sketty, West Cross, y Mwmbwls, Cilâ a Gŵyr, sydd hefyd yn gwasanaethu myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Iechyd Bae Abertawe yn cynnwys wyth practis sy’n cydweithio â phartneriaid o’r gwasanaethau cymdeithasol, y sector gwirfoddol, a bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, gyda phoblogaethau’r practisau’n amrywio o 3,704 i 21,575, gyda chyfanswm o 75,313 ar gyfer rhwydwaith y clwstwr.
Nod Clwstwr Iechyd Bae Abertawe yw:
Atal salwch gan alluogi pobl i gadw’n iach ac yn annibynnol cyhyd ag sy’n bosibl
Datblygu ystod ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn y gymuned
Sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan ystod eang o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol
proffesiynol yn y gymuned yn cael eu cydlynu’n well i gyd-fynd ag anghenion lleol
Gwella dulliau cyfathrebu a rhannu gwybodaeth rhwng gwahanol weithwyr iechyd, gofal
cymdeithasol a gwirfoddol proffesiynol, gan hwyluso’r broses o weithio’n agosach rhwng
gwasanaethau yn y gymuned ac mewn ysbytai, gan sicrhau bod cleifion yn cael eu trosglwyddo’n
ddidrafferth ac yn ddiogel rhwng gwasanaethau yn yr ysbyty a gwasanaethau yn y gymuned.
Clwstwr Iechyd y Bae IMTP 2020-2023 (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Iechyd y Bae 2018-2021 (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Iechyd y Bae 2017-2020 (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Iechyd y Bae 2018-2021 (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Iechyd y Bae 2017-2020 (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Iechyd y Bae 2018-2021(Saesneg yn unig)
Clwstwr Iechyd y Bae IMTP 2020-2023 (Saesneg yn unig)