Neidio i'r prif gynnwy

Andrew Dickenson

Penodwyd Andrew yn Brif Swyddog Deintyddol Cymru yn ystod Gwanwyn 2022. Fel clinigydd mae Andrew yn meddu ar gymhwyster dwbl mewn deintyddiaeth a meddygaeth. Cafodd hyfforddiant llawfeddygol ôl-raddedig ar draws rhanbarthau Gogledd-ddwyrain Lloegr a Chanolbarth Lloegr. Yn 2003 daeth yn ymgynghorydd mewn llawdriniaethau’r geg, yr ên a’r wyneb. Gweithiodd ym maes addysg feddygol a deintyddol, ac ymunodd â Health Education England fel Deon Addysg Ôl-raddedig yn 2014. Mae Andrew yn athro gwadd mewn iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhrifysgol Caer.

  • Ei flaenoriaethau ar hyn o bryd yw:
  • canolbwyntio ar adfer gwasanaethau deintyddol ar ôl y pandemig COVID-19
  • ailgychwyn rhaglen diwygio contract ar gyfer deintyddiaeth gofal sylfaenol