Neidio i'r prif gynnwy

Amit Duggal

Mae Amit wedi treulio’r rhan fwyaf o’i fywyd gwaith ym maes Deintyddiaeth Gofal Sylfaenol y GIG ble y bu’n gweithio fel gweithiwr cyswllt ac yna fel Darparwr yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Cafodd swyddi fel hyfforddwr Deintyddion Sylfaen am sawl blwyddyn a gweithiodd hefyd fel Cynghorydd Ymarfer Deintyddol rhan-amser. Ers ymuno â’r Awdurdod Gwasanaethau Busnes, mae Amit wedi gweithio gyda Chomisiynwyr yng Nghymru a Lloegr yn ei swydd fel Arweinydd Tîm Clinigol. Mae ei waith i gyd yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae’n brif gyswllt ar gyfer BIP Bae Abertawe a BIP Cwm Taf Morgannwg.