Neidio i'r prif gynnwy

Cloi – gorffen y prosiect

Y cam olaf yng nghylch oes y prosiect yw'r clo.  Dylid diffinio canlyniad, ac felly diwedd, i'r prosiect.  Bydd diwedd y prosiect yn cynnwys cymeradwyo, gwerthuso a throsglwyddo i'w symud i weithrediadau beunyddiol.

Wrth ddod i ddiwedd eich prosiect, mae'n bwysig parhau i fonitro hyd y diwedd un. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallai'r prosiect fynd ar gyfeiliorn.

Wrth gymeradwyo eich prosiect bydd yr holl bobl berthnasol wedi cytuno ar ystyr cwblhau. Mae hyn yn golygu y byddwch wedi gorffen yr holl waith a nodwyd yn eich cynllun. Os byddwch yn cwblhau'r holl waith yn eich cynllun ond nad yw eich prosiect wedi gorffen, bydd hynny'n golygu bod rhywbeth ar goll o'ch cynllun. Beth bynnag fo'r achos, dylech chwilio am agweddau sydd heb eu cwblhau.

Tynnwch sylw at eich carreg filltir derfynol, er mwyn cadw'r momentwm tan y gymeradwyaeth derfynol.

Gwerthuso

Yr unig ffordd i ddysgu o'r profiad o reoli prosiect yw gwerthuso'r broses.

Ar ôl ichi gwblhau eich prosiect, dylech eich holi eich hun beth wnaeth weithio'n dda, a beth oedd heb fod cystal, ac ystyried pam. Dylech gofnodi eich canfyddiadau fel bo modd eu rhannu o fewn y sefydliad.

Dylai pawb sy'n gysylltiedig â'r prosiect fod yn rhan o'r adolygiad i ryw raddau oherwydd gall y broses ddysgu hon arwain at berfformiad gwell yn y dyfodol.

Trosglwyddo'r prosiect

Pan fydd y prosiect wedi'i gymeradwyo, efallai y bydd angen ichi ei drosglwyddo i gydweithwyr, rhan arall o'r sefydliad neu bwy bynnag fydd yn rheoli unrhyw faterion gweithredol sy'n codi o ddydd i ddydd.

Yn yr achos hwn, bydd angen ichi benderfynu beth yn union y mae angen i'r unigolyn neu'r tîm hwnnw ei wybod er mwyn defnyddio neu gynnal canlyniad y prosiect yn llwyddiannus.

Mae'n amhosibl barnu a yw eich prosiect wedi llwyddo nes bo'r defnyddiwr terfynol/y tîm wedi mesur buddion y prosiect. Ni fydd modd cynnal y dadansoddiad hwn fel arfer nes bo cynnyrch terfynol y prosiect wedi cael ei ddefnyddio ers tro.

Bydd angen ichi gytuno ar ffactorau llwyddo hollbwysig, a bydd modd mesur rhai o'r ffactorau hyn ar unwaith, ond bydd angen mwy o amser i fesur ffactorau eraill. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi nodi proses adolygu yn eich dogfennau trosglwyddo. Mae'n hanfodol eich bod yn adolygu llwyddiant eich prosiect ar amserlen hwy er mwyn nodi unrhyw gamgymeriadau neu lwyddiannau nad ydynt wedi dod i'r amlwg eto.

Un peth yw bodloni terfynau amser a chadw o fewn y gyllideb, ond addasrwydd y canlyniad terfynol, boed hynny'n system, yn newid mewn proses, yn ddigwyddiad neu'n gynnyrch, yw'r llinyn mesur a ddylai ddangos gwir lwyddiant eich prosiect

 

Rhestr wirio gwerthuso ar ôl y prosiect