Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau ymwybyddiaeth o ganllawiau / safonau ansawdd NICE a'u rhoi ar waith

  • Behaviour change: individual approaches (PH49). Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â ffactorau risg ymddygiadol newidiol pobl 16 oed a hŷn sy’n defnyddio ymyriadau fel gosod a chynllunio nodau, adborth a monitro, a chymorth cymdeithasol. Y nod yw helpu i fynd i'r afael ag amrywiaeth o ymddygiadau.
  • Tobacco: preventing uptake, promoting quitting and treating dependence (NG209). (Saesneg yn unig)  Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â chymorth i roi'r gorau i ysmygu a helpu i leihau'r niwed a achosir gan ysmygu i bobl os nad ydynt yn barod i roi'r gorau iddi yn syth. Mae hefyd yn ymdrin â ffyrdd o atal plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc rhag dechrau ysmygu.
  • Smoking: supporting people to stop (QS43). (Saesneg yn unig) Mae'r safon ansawdd hon yn cynnwys cymorth i bobl roi'r gorau i ysmygu. Mae'n cynnwys atgyfeirio at wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu a thriniaethau i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu. Mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd â blaenoriaeth i'w gwella.
  • Smoking: harm reduction (QS92). (Saesneg yn unig) Mae'r safon ansawdd hon yn ymdrin â ffyrdd o leihau niwed a achosir gan ysmygu. Mae'n cynnwys cyngor ar gefnogi pobl nad ydynt am roi'r gorau i ysmygu mewn un cam. Mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd â blaenoriaeth i'w gwella.
  • Smoking: reducing and preventing tobacco use (QS82). (Saesneg yn unig) Mae'r safon ansawdd hon yn cynnwys lleihau ac atal oedolion, pobl ifanc a phlant rhag defnyddio tybaco. Mae'n cynnwys ymyriadau i annog pobl i beidio â dechrau ysmygu, strategaethau rheoli tybaco a pholisïau di-fwg. Mae'n arbennig o berthnasol i awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau, cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau'r GIG. Mae'n disgrifio gofal o ansawdd uchel mewn meysydd â blaenoriaeth i'w gwella.