Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud i bob cyswllt gyfrif trwy gymryd mantais o'r cyfle i ofyn am statws ysmygu

  • Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) yn ddull Cymru gyfan o newid ymddygiad, gan ddefnyddio rhyngweithio o ddydd i ddydd, i gefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol sy'n gwella eu hiechyd meddyliol a chorfforol a'u lles. 
  • Ystyriwch annog staff ymarfer i ennill sgiliau Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Ar gyfer e-ddysgu Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (hyd at lefel 1), gweler yma [angen ESR neu unrhyw fath arall o fewngofnodi/cofrestriad]. Ar gyfer cysylltiadau hyfforddi Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif fesul bwrdd iechyd, gweler yma (Saesneg yn unig) [mewnrwyd].
  • Mae ymyriad byr gan staff practis sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phobl a allai fanteisio ar rhywfaint o gymorth i wneud dewis gwybodus i ystyried rhoi'r gorau i ysmygu yn cael ei hybu gan ganllawiau NICE (PH49).  (Saesneg yn unig)
  • Strategaeth syml yw Gofyn: sefydlu a chofnodi statws (ddim yn ysmygu, cyn-ysmygwr, ysmygwr); Cynghori "Y ffordd orau i roi’r gorau iddi yw gyda chymorth stopio ysmygu'r GIG"; Gweithredu: cymell a chyfeirio at Helpa Fi i Stopio.
  • Mae Gwneud Gwahaniaeth (Iechyd Cyhoeddus Cymru 2016)  (Saesneg yn unig) yn nodi tystiolaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd bod cynnig cwnsela i ysmygwyr yn eithaf cost-effeithiol (o'i gymharu â strategaethau cost-effeithiol iawn ar lefel y boblogaeth).
  • Cofnodi neu ddiweddaru statws ysmygu ar y system glinigol (Mesur Gofal Sylfaenol yw hwn).