Neidio i'r prif gynnwy

Gwella cyfraddau atgyfeirio i'r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio

  • Gall holi am statws ysmygu sbarduno ymgais i roi'r gorau iddi ond mae cyfeirio'n cynyddu'r tebygolrwydd o lwyddiant; mae ysmygwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i ysmygu'n llwyddiannus gyda chymorth rhoi'r gorau i ysmygu'r GIG, nag y maent ar eu pennau eu hunain.
  • Mae Helpa Fi i Stopio yn frand sengl ar gyfer gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu’r GIG yng Nghymru. Mae wedi’i adeiladu o amgylch gwefan a thîm canolfan gyswllt, sy’n darparu mynediad i holl wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu’r GIG (gan gynnwys fferyllfa gymunedol, Dim Smygu Cymru a gwasanaethau mewn ysbytai). Nod y gwasanaeth yw ei gwneud hi'n haws i ysmygwyr ddewis y cymorth gorau ar eu cyfer gan y GIG i roi'r gorau i smygu yn eu hardal leol a chaiff ei argymell fel y dewis gorau y gall ysmygwr ei wneud i roi'r gorau i ysmygu.
  • Mae Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Rheoli Tybaco 2017–2020 ( LIC 2017) (Saesneg yn unig) yn cynnwys camau i gynyddu cyfraddau atgyfeirio i wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu gan bractisiau meddygon teulu sy'n anelu at 10% o gleifion sy'n ysmygu yn cael eu cymell i roi'r gorau iddi a'u hatgyfeirio bob blwyddyn).
  • Gellir gwneud atgyfeiriadau proffesiynol drwy QuitManager neu ffurflen atgyfeirio ar-lein.
  • Cofnodi unrhyw gymorth a thriniaeth a gynigir ar y system glinigol (Mesur Gofal Sylfaenol yw hwn).