Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud i bob cyswllt gyfrif trwy gymryd mantais o'r cyfle i ofyn am ffactorau risg ymddygiadol ar gyfer pwysedd gwaed uchel

  • Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) yn ddull Cymru gyfan o newid ymddygiad, gan ddefnyddio rhyngweithio o ddydd i ddydd, i gefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol sy'n gwella eu hiechyd meddyliol a chorfforol a'u llesiant. 
  • Ystyriwch annog staff ymarfer i ennill sgiliau Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Ar gyfer e-ddysgu Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (hyd at lefel 1), gweler yma  [angen ESR neu unrhyw fath arall o fewngofnodi/cofrestriad]. Ar gyfer cysylltiadau hyfforddi Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif fesul bwrdd iechyd, gweler yma  [mewnrwyd]. (Saesneg yn unig)
  • Hyrwyddir ymyrraeth fer gan staff sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phobl a allai ddefnyddio rhywfaint o gymorth i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth gan ganllawiau (PH49) (Saesneg yn unig)
  • Defnyddiwch gyfleoedd i drafod a mynd i'r afael ag ysmygu (BRF-001), deiet afiach (BRF-002), anweithgarwch corfforol (BRF-003) a chamddefnyddio alcohol (BRF-004).
  • Mae lleihau ffactorau risg ymddygiadol yn gostwng pwysedd gwaed (BMJ 2016;355:i5719) (Saesneg yn unig) : Deiet sy'n gyfoethog mewn ffrwythau, llysiau, a bwyd llaeth braster isel gan fwyta llai o fraster: Gostyngiad rhwng 8 a 14 mmHg ym mwysedd gwaed systolig; Gweithgarwch aerobig rheolaidd o leiaf 30 munud y dydd: Rhwng 4 a 9 mmHg; Dim mwy na 2400 mg (yn ddelfrydol 1600 mg) o sodiwm bob dydd: Rhwng 2 a 8 mmHg; Uchafswm o 2 oz ethanol y dydd (dynion) 1 oz ethanol y dydd (menywod): Rhwng 2 a 4 mmHg; Cyflawni / cynnal BMI rhwng 18.5 a 24.9: 3 mmHg fesul gostyngiad pByddai bwyta 3 g yn llai o halen yn ddyddiol (amcangyfrif gweddol geidwadol o'r hyn y gellid ei gyflawni) yn lleihau pwysedd gwaed systolig o tua 2 mmHg (NICE PH25; 2010) (Saesneg yn unig) wysau corff rhwng 4 a 8%.
  • Byddai bwyta 3 g yn llai o halen yn ddyddiol (amcangyfrif gweddol geidwadol o'r hyn y gellid ei gyflawni) yn lleihau pwysedd gwaed systolig o tua 2 mmHg (NICE PH25; 2010) (Saesneg yn unig) .