Neidio i'r prif gynnwy

Canolbwyntio ar wella canfod pwysedd gwaed uchel

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn awgrymu (Saesneg yn unig) y gall y tîm gofal sylfaenol ehangach wneud y canlynol:

  • Cynyddu profion pwysedd gwaed oportiwnistaidd yn y practis Meddwl am bwysau gwaed ym mhob ymgynghoriad arferol gyda chlaf (gall hyn gynnwys trafodaethau a gynhelir dros y ffôn ac yn rhithiol); Gwneud profi pwysedd gwaed mewn clinigau yn arfer megis asthma, COPD, diabetes, rheoli pwysau, rhoi'r gorau i ysmygu, yn ogystal â chlinigau gwasanaeth uwch lleol eraill; Ychwanegwch wirio pwysedd gwaed i unrhyw dempledi i helpu i ysgogi staff.
  • Cynnig monitro pwysedd gwaed symudol neu, pan fo hynny'n briodol, monitro pwysedd gwaed yn y cartref bob tro er mwyn cadarnhau diagnosis o bwysedd gwaed uchel.
  • Cynnwys asesu risg cardiofasgwlaidd fel rhan o ddiagnosis bob tro.
  • Er mwyn hyrwyddo safonau uchel wrth fesur pwysedd gwaed, sicrhewch fod eich peiriannau'n cael eu graddnodi a chyfeiriwch gleifion a staff at adnoddau hyfforddi fideo.