Rheoli ffactorau risg clinigol er mwyn atal asthma
Optimeiddio camau ataliol cynradd/eilaidd ar gyfer mynegai màs y corff uchel (plentyndod [CRF-002] a gordewdra oedolion [CRF-003]).
Mae cysylltiad sylweddol rhwng BMI ac asthma ymhlith plant a’r glasoed (BMC Pediatr 2018 Ebrill 26; 18(1):143)(Saesneg yn unig). Mae natur y cysylltiad hwn yn aneglur, ond mae tystiolaeth yn dangos bod BMI uchel yn rhagflaenu datblygiad symptomau asthma (J Acad Nutr Diet 2013 Ion; 113(1):77–105)(Saesneg yn unig).
Adroddir am fwy o achosion o asthma, a mwy o achosion o waethygiadau a mynd i'r ysbyty oherwydd asthma; mae gordewdra yn ffactor risg ar gyfer rheolaeth wael o asthma (Surge Obes Relat Dis 2018 Rhag 22. pii: S1550-7289(18)31082–7)(Saesneg yn unig).
Os yw’r person yn ordew ac ag asthma, gall colli pwysau wella canlyniadau sy'n gysylltiedig ag asthma (Ann Am Thorac Soc 2019 Ion 3)(Saesneg yn unig).
Mae’r Cynllun cyflawni ar gyfer iechyd anadlol (LlC 2018) yn nodi bod gordewdra (ynghyd ag ysmygu) yn ffactor sy’n cyfrannu’n fawr at lefelau clefyd anadlol.