Gwneud i bob cyswllt gyfrif trwy gymryd mantais o'r cyfle i ofyn am ffactorau risg ymddygiadol er mwyn atal COPD
Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) yn ddull Cymru gyfan o newid ymddygiad, gan ddefnyddio rhyngweithio o ddydd i ddydd, i gefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol sy'n gwella eu hiechyd meddyliol a chorfforol a'u llesiant.
Ystyriwch annog staff y practis i ennill sgiliau Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Ar gyfer e-ddysgu Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (hyd at lefel 1), gweler yma [angen ESR neu unrhyw fath arall o fewngofnodi/cofrestriad]. Ar gyfer cysylltiadau hyfforddi Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif fesul bwrdd iechyd, gweler yma (Saesneg yn unig) [mewnrwyd].
Mae canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (PH49)(Saesneg yn unig) yn hyrwyddo ymyraethau byr gan staff sydd mewn cysylltiad rheolaidd â phobl a allai fuddio o gael cymorth i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.
Optimeiddio camau ataliol sylfaenol/eilaidd ar gyfer ysmygu (BRF-001) yn enwedig; hefyd ar gyfer diet afiach (BRF-002), anweithgarwch corfforol (BRF-003) a chamddefnyddio alcohol (BRF-004) fel cyfranwyr at ordewdra a bod dros bwysau (gan nodi y gall ymarfer corff hefyd achosi asthma).
Mae ysmygu’n cynyddu'r risg o asthma mewn oedolion yn sylweddol ac yn cynyddu'r risg o waethygiadau asthma mewn oedolion a phoblogaethau beichiog yn sylweddol; mae ysmygu goddefol yn cynyddu'r risg o asthma mewn plant (Chest 2016 Gorff; 150(1):164–79)(Saesneg yn unig).
Mae’r Cynllun cyflawni ar gyfer iechyd anadlol (LlC 2018) yn ailadrodd pwysigrwydd lleihau’r ffactorau risg ymddygiadol hyn. Mae’r cynllun yn argymell bod camau gweithredu’n cynnwys gwella’r cyfraddau atgyfeirio i wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu, i raglenni adsefydlu ysgyfeiniol, ac i’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) neu raglenni ymarfer corff lleol, sy’n arbennig o berthnasol i glinigwyr.