Neidio i'r prif gynnwy

Canolbwyntio ar wella'r rheolaeth o asthma

  • Ni fydd gwella ansawdd gofal asthma yn gostwng nifer yr achosion. Fodd bynnag, gall leihau'r risg o gymhlethdodau/ digwyddiadau yn y dyfodol (gan gynnwys marwolaethau y gellir eu hosgoi); gwella ansawdd bywyd i'r claf a'u gofalwyr/ teuluoedd; lleihau annhegwch mewn canlyniadau iechyd; neu leihau (neu gynyddu) defnydd a chostau iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Iechyd Anadlol (LlC 2018) yn nodi bod yr Adolygiad Cenedlaethol o Farwolaethau Asthma (NRAD) yn amcangyfrif y gellir osgoi tua hanner y marwolaethau sy’n digwydd o oherwydd asthma; nod y cynllun yw cefnogi gofal sylfaenol gyda gweithredu argymhellion NRAD (e.e mae sicrhau bod pob claf yn cael adolygiad asthma cynhwysfawr yn flaenoriaeth).
  • Gweler isod i gael eich cyfeirio at ganllawiau perthnasol/safonau ansawdd Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol sy'n ymwneud â rheoli asthma, gallwch eu defnyddio fel ffynhonnell o gamau gwella posibl.