Neidio i'r prif gynnwy

Canolbwyntio ar wella canfod asthma

  • Bydd gwell canfyddiad o’r rhai sydd mewn perygl, gyda chadarnhad o ddiagnosis o asthma, yn effeithio ar gyfran cyffredinrwydd.
  • Gall cyffredinrwydd uwch mewn clystyrau adlewyrchu un neu fwy o'r cyffredinrwydd uwch o’r clefyd mewn poblogaeth; cyfle i wella'r broses o gyflwyno ymyriadau newid ymddygiad; cyfle i wella adnabod a/ neu reoli ffactorau risg clinigol; mynediad at ofal iechyd; neu effeithiolrwydd dod o hyd i achosion.
  • Mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Iechyd Anadlol (LlC 2018) yn nodi bod astudiaethau’n awgrymu nad oes gan hyd at 30% o oedolion sydd wedi cael diagnosis o asthma unrhyw dystiolaeth glir ohono, ond bod eraill yn awgrymu ei bod yn bosibl nad yw asthma yn cael ei ddiagnosio’n ddigon aml. Mae'r cynllun yn cynghori y dylid integreiddio canllawiau diagnostig asthma o fewn ymarfer clinigol ac i sefydlu canolfannau diagnostig o fewn gofal sylfaenol.
  • Gweler isod i gael eich cyfeirio at ganllawiau perthnasol/safonau ansawdd Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol sy'n ymwneud â chanfod asthma, gallwch eu defnyddio fel ffynhonnell o gamau gwella posibl.