Neidio i'r prif gynnwy

Addasu ffactorau risg eraill i gyfyngu ar waethygiadau asthma

  • Fel cyflwr sy'n dibynnu ar ofalaeth bob dydd, pan gaiff asthma ei reoli'n dda a'i drin yn briodol, gellir osgoi gwaethygiadau acíwt difrifol sy'n arwain at dderbyniadau i'r ysbyty (The King's Fund 2012)(Saesneg yn unig).
  • Byddai osgoi gwaethygiadau hefyd yn cynnwys lliniaru effeithiau cyfrannol cartrefi afiach (WDH-002) ac ansawdd aer gwael (gweler canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol isod).
  • Mae llygredd aer yn yr awyr agored yn gysylltiedig â gwaethygu asthma ymysg plant ac oedolion (PLoS One 2017 Mawrth 20; 12(3):e0174050)(Saesneg yn unig).
  • Mae amlygiad i lygredd aer dan do yn uwch mewn ardaloedd trefol o gymharu ag ardaloedd gwledig, ond gall fod yn gysylltiedig â risg o asthma yn y ddau o ystyried presenoldeb llygryddion gwahanol (Indoor Air 2010 Rhag; 20(6):502–14)(Saesneg yn unig).
  • Mae cysylltiadau ardal-fychan rhwng llygredd aer (nitrogen deuocsid a mater gronynnol), statws amddifadedd a chanlyniadau iechyd yn bodoli yng Nghymru; mae hyn yn cynnwys marwolaethau oherwydd clefydau anadlol (J Public Health 2017 Medi 1;39(3):485–497)(Saesneg yn unig).