Neidio i'r prif gynnwy

Cyflyrau Niwroddatblygiadol – Cymorth a Gwybodaeth

Beth yw’r Cod Ymarfer Awtistiaeth?

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r Cod Ymarfer Statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth ar ôl cydweithio â phobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r Cod yn dwyn ynghyd y dyletswyddau cyfreithiol gwahanol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf GIG (Cymru) 2006 i helpu i gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth. Mae enghreifftiau o’r hyn y mae’r Cod yn ei gwmpasu yn cynnwys:

  • Llwybrau ar gyfer diagnosis clinigol
  • Sicrhau bod addasiadau yn cael eu gwneud er mwyn i bobl awtistig fod yn gyfforddus i gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd a gallu dilyn eu diddordebau eu hunain
  • Codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o awtistiaeth a sut mae’n effeithio ar fywydau pobl, trwy sicrhau bod adnoddau ar gael yn eang i’r cyhoedd
  • Darparu hyfforddiant priodol i staff sy’n gweithio gyda phobl awtistig

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma:

Canllawiau ar wasanaethau awtistiaeth | LLYW.CYMRU

Guidance on autism services | GOV.WALES

I gael rhagor o wybodaeth am y Cod Ymarfer, anfonwch e-bost at:

niwroamrywiaeth@llyw.cymru

Yr adnoddau a’r hyfforddiant sydd ar gael

Y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol (NAT) – Pwy ydyn nhw a beth maen nhw’n ei wneud?

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Prif amcanion y Tîm yw:

  • Helpu i weithredu’r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth
  • Codi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o awtistiaeth ledled Cymru ymhlith y cyhoedd ac ar draws pob sector o wasanaethau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol
  • Cynhyrchu adnoddau o ansawdd uchel i wella gwybodaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth sy’n adlewyrchu llais y bobl awtistig, y rhieni a’r gofalwyr
  • Hyfforddi a chefnogi pobl eraill i godi ymwybyddiaeth a chynyddu dealltwriaeth o awtistiaeth ledled Cymru

Mae’r tîm wedi cynhyrchu ystod o adnoddau gan gynnwys fideos a thaflenni gwybodaeth a gellir eu cyrchu trwy ei wefan - Hafan - Awtistiaeth Cymru | Autism Wales | National Autism Team

Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol ar Awtistiaeth

Un o brif feysydd gwaith y Tîm fu gweithio ar ddatblygu a chyflawni hyfforddiant ar awtistiaeth. I helpu i gyflawni’r hyfforddiant hwn, mae’r Tîm wedi creu fframwaith hyfforddiant sy’n cyd-fynd ag adnoddau i helpu i uwchsgilio pob sector gan gynnwys y sector addysg a’r trydydd sector.

Mae’r fframwaith hyfforddiant yn cynnwys 4 lefel:

Lefel 1 - Deall Awtistiaeth

 

Lefel 2 - Medrus gydag Awtistiaeth

 

Lefel 3 - Sgiliau Awtistiaeth Uwch

 

Lefel 4 -Arbenigedd mewn Awtistiaeth

Hoffwn wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru trwy ennill mwy o ddealltwriaeth o awtistiaeth.

 

Rwy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl a gall rhai ohonynt fod yn awtistig. Hoffwn gael y gallu i addasu fy arferion i ddiwallu anghenion y bobl rwy’n gweithio gyda nhw yn well.

 

Rwy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl awtistig.

 

Rwy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl awtistig sydd â chyflyrau sy’n cyd-ddigwydd ac/neu anghenion cymhleth.

 

Rhaglen dysgu electronig newydd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol:

Yn ddiweddar, mae’r Tîm wedi datblygu rhaglen dysgu electronig newydd sy’n cydweddu â SCORM, fel y gall awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol eu gosod nhw ar eu platfformau dysgu presennol. Mae’r modiwl cyntaf “Deall Awtistiaeth” bellach wedi’i lansio. Mae modiwlau eraill yn y broses o gael eu cynhyrchu gan gynnwys asesu a chyfathrebu effeithiol.

I’r rhai na allant gael mynediad at y modiwlau trwy eu platfformau dysgu - mae’r dolenni i’r modiwl dysgu electronig ar wefan Awtistiaeth Cymru ar gael ichi yma:

Cymraeg - https://autismwales.org/cy/adnoddau/dysgu-electronig/

Saesneg - https://autismwales.org/en/resources/elearning/