Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi partneru â'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol, y Ganolfan Gwerth mewn Iechyd a Phwyllgor Gwaith y GIG i ddatblygu'r Fframwaith Iechyd a Gofal Seiliedig ar Atal (PBHC).: Cyfrwng i wreiddio ataliaeth yn y system iechyd a gofal.
Cynhelir y digwyddiad rhithwir hwn ddydd Llun, 20fed Mai 2024, 13:30-15:00.
Mae’r Fframwaith PBHC yn nodi’r elfennau allweddol sydd eu hangen i symud y system iechyd a gofal tuag at ddull sy’n seiliedig ar atal yn unol â’r dyheadau strategol yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys:
• Anerchiad agoriadol gan Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru
• Cyflwyniad i'r Fframwaith PBHC
• Dr Sally Lewis, Cyfarwyddwr y Ganolfan Gwerth mewn Iechyd, yn myfyrio ar ei phrofiadau o sefydlu'r mudiad Gwerth mewn Iechyd yng Nghymru
• Enghreifftiau o PBHC eisoes ar waith yng Nghymru
• Myfyrdodau gan banel o arweinwyr iechyd a gofal yng Nghymru ar y Fframwaith PBHC a sut maent yn ei weld yn gweithio'n ymarferol
• Y camau nesaf ar gyfer PBHC
Cwblhewch y ffurflen isod i gofrestru.
Bydd gwahoddiad dyddiadur Teams yn dilyn. A fyddech cystal â nodi'r dyddiad hwn tan fyddwch chi'n derbyn y gwahoddiad.