Neidio i'r prif gynnwy

Buddsoddiad Ychwanegol mewn Proffesiynau Perthynol i Iechyd

Buddsoddiad AHP ychwanegol

Defnydd Effeithiol o AHPs i gefnogi pobl i aros yn iach gartref

Mae defnyddio cyfran uwch o'r gweithlu AHP mewn timau integredig a hybiau mewn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol yn ganolog i gyflawni'r Rhaglen Datblygiad Clwstwr Carlam.

Ar 24 Ionawr 2023, i ddangos yr ymrwymiad i dimau cymunedol a gofal ataliol yn y gymuned sydd wedi'i gynllunio i gefnogi pobl i aros yn iach ac yn annibynnol, cyhoeddodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fuddsoddiad o £5 miliwn i gyflogi AHPs cofrestredig ychwanegol mewn gofal sylfaenol a chymunedol, ynghyd â gweithwyr cymorth. Mae hyn er mwyn cynyddu capasiti AHPs fel rhan annatod o dimau cymunedol, na chaiff ei defnyddio ddigon.

Mae’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn darparu arweinyddiaeth broffesiynol a fframwaith llywodraethu i gynnal y buddsoddiad ychwanegol hwn mewn AHPs. Mae Grŵp Strategol Cydweithredol Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru Gyfan (PCSG) a gadeirir gan yr Arweinydd AHP Cenedlaethol ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol, wedi’i sefydlu i gefnogi’r gwaith o gyflawni newid sylweddol, hirdymor i fodel integredig a chydlynol o drawsnewid AHP ar draws Gofal Sylfaenol a Chymunedol.

Pwrpas y Grŵp Strategol hwn yw ysgogi, hwyluso, galluogi a chefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau sy’n dangos gwerth ac effaith y Proffesiynau Perthynol i Iechyd ar draws Gofal Sylfaenol a Chymunedol, drwy gydweithio a chytuno ar elfennau allweddol o ran datblygu’r adnoddau gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

• Cronfa AHP o £5 miliwn

• Prosiectau Cronfa Integreiddio Rhanbarthol

• Prosiectau a mentrau Byrddau Iechyd Lleol

Mae'r PCSG hefyd yn cefnogi gweithrediad Cydweithrediadau Proffesiynol AHP ar sail Cymru gyfan; darparu fforwm cenedlaethol ar gyfer trafod, cymorth cenedlaethol a chymheiriaid, gan nodi'r datrysiadau mwyaf effeithiol ar gyfer y cyd-destun lleol a chenedlaethol.

Mae Grŵp Strategol Cydweithrediadau Proffesiynau Perthynol i Iechyd Cymru Gyfan yn atebol, ac yn adrodd yn uniongyrchol i Fforwm Goruchwylio Cynllunio AHP Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru. Rhennir yr hyn a ddysgir o'r grŵp hwn â Bwrdd  y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC) a lle bo'n briodol i'r Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol.