Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Cynhwysiant

Datblygwyd tudalennau gwe Rhaglen Iechyd Cynhwysiant Cymru ar gyfer Gofal Sylfaenol i gefnogi gwasanaethau gofal sylfaenol sy’n datblygu neu’n adolygu gwasanaethau i ystyried ac addasu i anghenion y poblogaethau sydd fwyaf agored i niwed.

Gall iechyd cynhwysiant gynnwys unrhyw grŵp poblogaeth sy’n dioddef fwyaf yn sgil anghydraddoldebau iechyd. Mae’r grwpiau hyn yn wynebu gwahaniaethu, allgau cymdeithasol, ac “anfanteision difrifol niferus sy’n gorgyffwrdd” drwy gydol eu bywydau, sy’n cynyddu’n sylweddol eu risg o iechyd gwael. Mae hyn wedi’i ddisgrifio hefyd fel ‘ymyl clogwyn anghyfiawnder’.

Mae cynhwysiant iechyd yn fater o gyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol ond ceir buddiannau i gymdeithas a’r unigolyn hefyd. Er bod y conglfeini ar gyfer iechyd yn gorwedd y tu allan i’r gwasanaethau iechyd, gallwn fod yn YMWYBODOL ohonynt a sut y maent yn effeithio ar rai ohonom yn ein cymunedau, a meithrin YMWYBYDDIAETH ymysg eraill. Gallwn EIRIOLI dros y conglfeini yn ein cymunedau a’u rôl mewn iechyd. Gallwn hefyd GYMRYD CAMAU i symud tuag at system gofal sylfaenol deg i bawb yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gyda phobl ledled Cymru ar raglen ‘Cynhwysiant Iechyd’ ac rydym wedi datblygu offer ac adnoddau i’ch cefnogi yn eich gwaith yn eich cymuned, boed hynny’n waith codi ymwybyddiaeth, eiriolaeth neu gamau gweithredu.

Gall yr adnoddau ar y dudalen hon ein helpu i:

  • Fod yn ymwybodol o’r ffaith bod pobl sydd â mwy o anghenion yn ein holl gymunedau yng Nghymru.
  • Canfod sut y gallwn wneud newidiadau bach i feithrin perthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt yn ein gwasanaethau rheng flaen.
  • Fel arweinwyr neu reolwyr timau, gallwn weithio gyda gwasanaethau lleol eraill i gefnogi ein gilydd ar gynhwysiant iechyd.
  • Fel arweinwyr uwch neu strategol, gallwn ddarparu arweinyddiaeth a chefnogaeth i wasanaethau cynhwysiant iechyd.