Practiau Cyffredinol yn Abertawe Penderi
Mae Rhwydwaith Penderi yn un o’r chwech ardal rhwydwaith cymunedol yn Abertawe. Ceir pump practis sy’n gweithredu yn ardal glwstwr Penderi
Meddygfa Brynhyfryd
Canolfan Feddygol Cheriton
Canolfan Feddygol Cwmfelin
Grŵp Meddygol Fforestfach
Meddygfa Manselton
Mae 37,823 o unigolyn wedi’u cofrestru â practisau sy’n perthyn i Rwydwaith Clwstwr Penderi. Ym Mhenderi ceir amrywiaeth o broblemau iechyd a lles ac mae’n cynnwys yr ardal â’r amddifadedd mwayf yn Abertawe gyda bron i 50% o gleifion y rhwydwaith clwstwr yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae gan Penderi nifer fawr o gleifion sy'n ddi-waith a / neu'n rhieni sengl. Mae lefelau uchel o gamddefnyddio sylweddau a lefelau uchel o geiswyr lloches a ffoaduriaid wedi'u lleoli yn y dalgylch sy'n golygu bod angen defnyddio Llinell Iaith yn uchel. Mae lefelau uchel o faterion iechyd meddwl a beichiogrwydd ymysg merched yn eu harddegau. Penderi yw'r rhwydwaith uchaf ar y cyd ar gyfer presenoldeb A ac E yn Abertawe a'r rhwydwaith ail uchaf ar gyfer derbyniadau brys COPD yn Abertawe. Mae'r cyfraddau derbyn ar gyfer gwasanaethau sgrinio yn is na chyfartaledd Cymru.
Yn ABMU HB mae Penderi yn safle 11 allan o 12 ar gyfer y mynychder ysmygu uchaf. Mae 25.2% o boblogaeth Penderi dros 15 oed yn ysmygwyr. Penderi sydd â'r nifer uchaf o achosion o ganser yr ysgyfaint ar draws clystyrau ardal ABMU HB. (86.6 fesul 100,000 o'r boblogaeth).
O ran brechlynnau ffliw: mae gan 28.7% o blant 2-3 oed y brechlyn (cyfartaledd ABMU yw 33.6%), mae gan 62% o gleifion 65 oed a hŷn y brechlyn ffliw (cyfartaledd ABMU yw 63.4%), 40% o gleifion o dan 65 yn derbyn y brechlyn ffliw (cyfartaledd ABMU yw 43.4%).
Clwstwr Penderi IMTP 2020-2023 (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Penderi 2018/2021 (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Penderi 2017/20 (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Penderi 2018/2021 (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Penderi 2017/20 (Saesneg yn unig)
Cynllun Gweithredu Rhwydwaith Clwstwr Penderi 2018/2021 (Saesneg yn unig)
Clwstwr Penderi IMTP 2020-2023 (Saesneg yn unig)
Diweddariad arweiniol clwstwr 13/09/2021