Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Gweithlu AHP Gofal Sylfaenol a Chymunedol: Trefnu egwyddorion i wneud y defnydd gorau posibl

Gellir dod o hyd i’r ddogfen Canllawiau ar gyfer y Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd mewn Gofal Sylfaenol a  Chymunedol:  Trefnu egwyddorion i wneud y defnydd gorau posib  yma:

Darllen Hir 

Darllen Byr 

 

Mae Cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu: Mynd i’r Afael â Heriau Gweithlu GIG Cymru 2023 yn nodi gofynion penodol sy’n ymwneud â AHPs. Gan nodi Cam Gweithredu 74:

Bydd AaGIC yn defnyddio Canllawiau ar gyfer y Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol: Trefnu egwyddorion i wneud y defnydd gorau posib i lunio a dylanwadu ar ddatblygiadau'r gweithlu e.e. y Cynllun Gweithlu Gofal Sylfaenol Strategol, y fframwaith Cyhyrysgerbydol ac ati, i sicrhau bod yr effaith, llesiant, llywodraethu proffesiynol a chymysgedd sgiliau'r Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn cael eu huchafu.

 

Uchelgais Gweithiwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHPs) yng Nghymru yw cael gwasanaethau sydd wedi’u hintegreiddio’n dda, wedi’u gwreiddio yn y gymuned, gydag ystod lawn o lefelau ymarferwyr ac optimeiddio sgiliau AHP yn ddarbodus. 

Gydag amcanion clir i’r canlynol:

  • Darparu eglurder ynghylch y cynnig AHP sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • Edrych ar y gweithlu AHP yn ei gyfanrwydd o safbwynt arweinyddiaeth AHP cydweithredol
  • Hysbysu a chefnogi cynllunio i ddiwallu anghenion y boblogaeth a blaenoriaethau rhanbarthol
  • Sicrhau hygyrchedd a defnydd effeithiol o set sgiliau AHP ar draws Gofal Sylfaenol a Chymunedol
  • Nodi bylchau a gofynion o sail cynllunio gweithlu system gyfan integredig dda
  • Creu modelau darparu cynaliadwy sy’n cefnogi rhanddeiliaid lluosog
  • Darparu’r gwasanaethau o ansawdd uchel, gwerth uchel sydd eu hangen i ddarparu cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, o fewn model gofal sy’n seiliedig ar leoedd

Mae’r canllawiau hyn yn darparu’r egwyddorion trefnu/camau gweithredu sy’n ofynnol ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan. Mae hyn er mwyn wneud y gorau o’r hyn a gynigir gan Broffesiynau Perthynol i Iechyd (AHPs) ar draws Gofal Sylfaenol a Chymunedol, a sicrhau ein bod yn creu modelau darparu cynaliadwy sy’n cefnogi rhanddeiliaid lluosog. Defnyddio gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar sail cynllunio gweithlu system gyfan integredig i ddarparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel, gwerth uchel sydd eu hangen. Sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu yn nes at y cartref, yn y lleoliad sydd fwyaf priodol ar gyfer yr unigolyn.

Mae'n disgrifio pwy yw'r AHPs, yr heriau presennol o ran cynnydd hyd yma a blaenoriaethau sy'n cystadlu, ac mae'n canolbwyntio ar yr amodau sy'n ffafriol i wneud y defnydd gorau o AHPs. Darparu eglurder ynghylch y cynnig AHP sy’n seiliedig ar dystiolaeth i lywio a chefnogi cynllunio i ddiwallu anghenion a blaenoriaethau rhanbarthol.

Sicrhau hygyrchedd a defnydd effeithiol o set sgiliau AHP ar draws Gofal Sylfaenol a Chymunedol, sy’n hollbwysig i ddarparu cymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, o fewn model gofal sy’n seiliedig ar leoedd.

Mae wedi’i alinio’n llawn â Datblygiad Clystyrau Carlam (ACD) er mwyn cyflawni’r uchelgais hwn ac wedi’i lywio gan egwyddorion:

Cymru Iachach

Model Gofal Sylfaenol Cymru

Fframwaith Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP): Edrych Ymlaen Gyda’n Gilydd